Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o ddewisiadau o ran diffiniad gan nad oes un diffiniad o 'Gymru Wledig' sy'n berthnasol i bob diben.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Un o'r cwestiynau cyffredin a ofynnir i'r Gwasanaethau Ystadegol yw "Beth yw Cymru wledig?" Er bod y cwestiwn yn un syml, nid felly'r ateb. Mae iddo sawl agwedd. Mae sawl ffordd synhwyrol o ystyried yr hyn a olygir wrth 'wledig'. Nod y bwletin yw rhoi cyflwyniad i'r amryfal opsiynau sydd ar gael a'ch helpu i wneud penderfyniadau cytbwys am y math o ddiffiniad sy'n briodol ar gyfer gorchwyl penodol.
Fel man cychwyn ar gyfer ystadegau cyffredinol am bobl yn y 'Gymru wledig', mae'r bwletin yn cynnwys cyflwyniad i ddiffiniad Ystadegau Gwladol o fath o anheddiad ac o gyd-destun yr anheddiad hwnnw.
Prif bwyntiau
- Nid oes un diffiniad ar gael sy'n gymwys at bob diben. Mae llawer o opsiynau, a all fod yn fwy neu'n llai priodol o dan amgylchiadau gwahanol.
- Yn benodol, bydd angen diffiniadau gwahanol o 'wledig' wrth ystyried 'pobl wledig', 'tir gwledig', a 'gweithgareddau gwledig'.
- Mae'n bosibl hefyd y bydd angen diffiniadau gwahanol gan ddibynnu a ydym, er enghraifft, am ystadegau disgrifiadol lle y mae rhywfaint o niwlogrwydd yn dderbyniol neu a ydym yn sôn am fecanweithiau cyllido lle nad ydyw.
Adroddiadau
Cymru wledig: diffiniadau a sut i ddewis rhwyg hwy , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 332 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.