Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Rydym wedi gweithio gyda phobl o bob cwr o Gymru i greu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae'r cynllun yn mynd i'r afael â phroblemau strwythurol a systemig, ac yn hyrwyddo tegwch a chyfiawnder i bawb.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y 6 maes blaenoriaeth a oedd bwysicaf i bobl: 

  1. Eich profiad o hiliaeth mewn bywyd bob dydd. 
  2. Eich profiad o hiliaeth wrth ddefnyddio gwasanaethau.
  3. Eich profiad o hiliaeth yn y gweithle.
  4. Eich profiad o hiliaeth wrth geisio dod o hyd i swydd neu hyfforddiant.
  5. Eich profiad o ddiffyg modelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol.
  6. Eich profiad o hiliaeth fel ffoadur neu geisiwr lloches.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i helpu i wneud Cymru'n wlad lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. Darllenwch am y cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma yn ystod 2022 i 2023.

Beth mae bod yn wrth-hiliol yn ei olygu?

Mae bod yn wrth-hiliol yn golygu cymryd camau pendant i wrthwynebu hiliaeth yn ei holl ffurfiau. Mae'n golygu:

  • gweithio tuag at chwalu systemau o ormes hiliol a gwahaniaethu
  • mwy na pheidio â choleddu safbwyntiau di-ragfarn neu osgoi gweithredoedd hiliol yn unig
  •  herio a mynd i'r afael â chredoau, ymddygiadau a strwythurau sefydliadol sy'n hiliol
  • cydnabod eich braint eich hun a deall sut mae'n cyfrannu at hiliaeth systemig

Hiliaeth yw trin person arall yn wahanol, ee ei fwlio oherwydd ei gefndir, ei ddiwylliant, neu ei gredoau crefyddol. Mae hyn yn cynnwys:

  • pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 
  •  Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig a chymunedau ffydd eraill
  • Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches 

Mae bod yn wrth-hiliol yn fwy na pheidio â bod yn hiliol yn unig. Mae'n golygu cymryd camau pendant i fod yn wrth-hiliol. Mae'n ymwneud â:

  • thynnu sylw at hiliaeth a pheidio â gadael iddi barhau
  • herio hiliaeth a gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau, gan gynnwys safbwyntiau negyddol am bobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 
  • pobl mewn grym yn cymryd camau i fynd i'r afael â hiliaeth o fewn eu sefydliadau
  • parchu gwahaniaeth a gwerthfawrogi ein hunaniaethau amrywiol ac unigryw niferus yng Nghymru
  • gweithio a chymryd camau pendant i chwalu systemau sy'n hwyluso'r anghydraddoldebau hyn er mwyn gwneud cymunedau a chymdeithas yn decach i bawb

Nid yw bod yn wrth-hiliol yn golygu:

  • bod yn lliwddall ac anwybyddu gwahaniaethau
  • ceisio gwneud i bobl ethnig leiafrifol ffitio i mewn i gymdeithas 
  • disodli un math o anghydraddoldeb neu annhegwch ag un arall

Gall hiliaeth fynegi ei hun ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys rhai nad ydych efallai'n sylweddoli ar unwaith eu bod yn hiliol. Gall hyn amrywio o gamdriniaeth a bwlio i drin rhywun yn waeth na rhywun arall oherwydd ei hil. Mae hefyd yn ymwneud â pholisïau mewn ysgolion, gweithleoedd neu sefydliadau tebyg sy'n rhoi pobl o gefndir hiliol penodol dan anfantais.