Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn ailgylchu, ailddefnyddio neu yn compostio 64 y cant o’n gwastraff, cynnydd o 60 y cant o’r llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae data dros-dro ar gyfer y 12 mis a ddaw i ben fis Mawrth 2017, a ryddhawyd heddiw, yn dangos:

  • I’r gyfradd ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gynyddu 64 y cant, o gymharu â 60 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd Mawrth 2016.  
  • Daeth cyfanswm y gwastraff trefol a gynhyrchwyd yng Nghymru o fis Ionawr – Mawrth 2017 i lawr, gyda gostyngiad o 6 y cant yn y pwysau, o 400 i 375 mil o dunelli, o gymharu â’r un chwarter yn 2016.
  • Bu gostyngiad o 4 y cant yn y gwastraff gweddilliol o gartrefi a gynhyrchwyd fesul person, gan ostwng i 48 cilogram y person ym mis Mawrth 2017, o gymharu â’r un chwarter yn 2016.    

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau statudol ar gyfer ailgylchu gwastraff o 58 y cant erbyn 2016-17, 64 y cant erbyn 2019-20 a 70 y cant erbyn 2024-25.  Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod pob un ond un awdurdod lleol wedi cyrraedd y targed presennol ar gyfer 2016-17. Er i Blaenau Gwent fethu’r targed gyda 58%, roedd ei gyfradd o 57% yn gynnydd ar y 49% a welwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.  

Roedd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn croesawu’r ffigurau.  Dywedodd:  

“Mae’r ffigurau ailgylchu diweddaraf yn newyddion da iawn.  Maent yn dangos bod y gwastraff yr ydym yn ei greu yn lleihau tra bo cynnydd parhaus yn yr hyn yr ydym yn ei ailgylchu.  

“Dylem fod yn hynod falch o’n perfformiad wrth ailgylchu yma yng Nghymru.  Mae hwn yn faes ble yr ydym yn arwain o fewn y DU ac yn wir dwy wlad arall sy’n ailgylchu mwy na ni o fewn y byd i gyd.  

“Rydym o hyd yn chwilio am ffyrdd i barhau i wella.  Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddais fy mod yn bwriadu ymgynghori ar gynlluniau i hanneru’r gwastraff bwyd erbyn 2025.  Dwi’n hyderus bod hyn yn bosibl diolch i ymdrechion parhaus Awdurdodau Lleol ac  ymrwymiad cartrefi i ailgylchu. Mae ffigurau heddiw yn dangos eu bod yn rhannu ein huchelgais o fod yn wlad ddi-wastraff erbyn 2050”.