Neidio i'r prif gynnwy

Bydd annog rhagor o ferched i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn helpu Cymru i arloesi wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mawr sy’n wynebu cymdeithas, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, sy’n digwydd yn flynyddol, dywedodd y Gweinidog bod angen i ragor o ferched ifanc ddilyn gyrfaoedd mewn STEM os yw Cymru am wireddu ei photensial economaidd, ynghyd â gwireddu ei huchelgais o ddod yn genedl sydd wir yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Nid yw gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg erioed wedi bod yn bwysicach o ran dod o hyd i atebion i’r problemau byd-eang mawr sy’n wynebu cymdeithas.

Mae menywod ysbrydoledig ledled Cymru wedi chwarae rolau allweddol wrth fynd i’r afael â’r heriau sylfaenol a wynebir gan ein cymdeithas, gan gynnwys adfer yn sgil COVID-19 a threchu’r argyfwng hinsawdd.

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n bwysicach nag erioed inni annog llawer mwy o fenywod a merched i ddilyn gyrfaoedd mewn STEM.

Dywedodd y Gweinidog bod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer rhaglenni sy’n canolbwyntio’n benodol ar ferched, gyda’r nod o gynyddu’r niferoedd mewn ysgolion uwchradd sy’n ymwneud â’r diwydiannau STEM.

Rhaglen Technocamps ‘Annog Merched i Astudio STEM’ yw un o’r rhaglenni hyn, sy’n ceisio cynyddu nifer y modelau rôl ysbrydoledig sydd â gyrfaoedd gwahanol iawn, gan ddangos rhai o’r rolau traddodiadol a’r rhai llai amlwg y gellir ymgymryd â nhw gyda chefndir mewn STEM - a normaleiddio menywod mewn STEM.

Treialodd rhaglen Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW) sesiwn rhithwir o Ferched i STEM mewn cydweithrediad â Viridor, lle bu disgyblion yn archwilio diwydiant lleol, gan edrych ar yr hyn sy'n digwydd i wastraff o’r cartref a gynhyrchwn, gan archwilio cysyniadau peirianneg gynaliadwy a heriau'r dyfodol. Roeddent hefyd yn rhoi sesiwn gyrfaoedd i'r disgyblion, gan eu galluogi i archwilio pum prif lwybr peirianneg (Sifil, Mecanyddol, Trydanol, Cemegol a Meddalwedd) ac ymchwilio i ba mor bwysig fydd peirianwyr wrth fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, sy’n gyfrifol am wyddoniaeth ar lefel y Cabinet yn Llywodraeth Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gynyddu nifer y merched sy’n gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), oherwydd mae’n dda i’n cymdeithas ac i’n heconomi. Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod gweithlu amrywiol yn cynyddu proffidioldeb, cynhyrchiant a chreadigrwydd ym mhob rhan o ddiwydiant.

“Nod ein Rhaglen Lywodraethu yw dathlu amrywiaeth a cheisio dileu pob ffurf ar anghydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys cynyddu amrywiaeth ym meysydd STEM drwy annog grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol i gymryd rhan, er mwyn adeiladu a datblygu byd lle mae cyfle i bawb astudio a gweithio ym maes gwyddoniaeth.

“Mae angen inni gynyddu’r llif o sgiliau STEM a ddaw o ysgolion i economi Cymru, a sicrhau bod rhagor o ferched yn dilyn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â STEM ac yn dysgu rhagor am y pynciau hyn. Mae pynciau STEM yn feysydd addysg hanfodol, ac maent yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’r Cwricwlwm i Gymru, gan baratoi dysgwyr ar gyfer astudiaethau, gwaith a bywyd yn yr 21ain ganrif.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

"Fel y gwyddom i gyd, mae pandemig Covid-19 wedi ail-bwysleisio'r rôl hanfodol bwysig y mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn ei chwarae yn y byd ac rwy'n ddiolchgar i'r gweithwyr proffesiynol STEM eithriadol sydd wedi arwain y frwydr yn erbyn Covid-19.

“Mae'n hanfodol bwysig ein bod, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, yn cynyddu gwelededd, bri ac apêl gwyddoniaeth i bawb.Drwy rannu straeon am fodelau rôl menywod STEM yn ystod y pandemig, gobeithio y gallwn ysbrydoli ac ysgogi mwy o fenywod a merched i astudio STEM, gan eu gosod ar lwybr i yrfa hynod werthfawr."

Wrth i Wythnos Prentisiaethau ddirwyn i ben, dyma hanes prentisiaeth a wnaeth agor y drws ar gyfer newid gyrfa i fyd peirianneg i Tiffany Evans o Gastell-nedd.  Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran y cofrestriadau ar brentisiaethau STEM. Mae dros hanner y cofrestriadau prentisiaethau STEM yn fenywod, 52% sy'n cymharu â 44% yn Lloegr, 9% yn yr Alban a 3% yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd Tiffany yn gweithio mewn canolfan gysylltiadau pan sylwodd ei bod am newid gyrfa a dod yn beiriannydd. A hithau’n 27 oed, roedd hi’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd i ddatblygu ei gyrfa. Fodd bynnag, nid oedd hi’n siŵr a allai hi fforddio bod yn fyfyrwraig eto. 

Daeth Tiffany i wybod y gallai ddilyn gyrfa fel peiriannydd telathrebu i Openreach drwy brentisiaeth, gan olygu y gallai ddatblygu sgiliau newydd a pharhau i ennill cyflog.

Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth y llynedd, mae Tiffany yn awr yn gweithio’n llawnamser fel peiriannydd telathrebu i Openreach ac yn defnyddio’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth. 

Dywedodd Tiffany:

“O ddydd i ddydd, mae fy swydd yn awr yn cynnwys ymweld â chwsmeriaid a thrwsio problemau neu wella galluoedd band eang. Mae fel pos, rhaid ichi ddod o hyd i’r broblem mewn cebl milltiroedd o hyd, ond dyna sy’n gwneud y gwaith yn ddiddorol – mae pob diwrnod yn wahanol. Pe bai rhaid imi roi cyngor i unrhyw un, byddwn yn argymell dilyn eich greddf a gofyn cwestiynau. Fydden i fyth wedi cael y cyfle hwn pe bawn i wedi anwybyddu’r teimlad hwnnw a oedd yn dweud wrtha i nad oedd fy hen swydd yn iawn i mi.”