Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cadarnhau y bydd y gwaharddiad llwyr cyntaf yn y DU ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud yn dod i rym yng Nghymru yn ystod yr hydref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

O 17 Hydref ymlaen, bydd defnyddio maglau a thrapiau glud yn anghyfreithlon yng Nghymru, gan helpu i atal dioddefaint ymhlith anifeiliaid.  Cyflwynwyd y gwaharddiad ar ôl i Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru), a oedd yn darparu ar ei gyfer, ddod yn gyfraith yn ystod yr haf.

Mae'r gwaharddiad ar ddefnyddio maglau yn un o'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, ac roedd y rhan fwyaf o'r rheini a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus o blaid gwaharddiad o'r fath.

Mae maglau, neu atalyddion cebl fel y'u gelwir weithiau, yn achosi llawer iawn o ddioddefaint i anifeiliaid. Nid ydynt yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd, ac maen nhw'n gallu niweidio rhywogaethau nad ydynt wedi'u bwriadu ar eu cyfer, megis dyfrgwn, cŵn a chathod.  Gall anifail sy'n cael ei ddal mewn magl wynebu poen a dioddefaint ofnadwy. 

Yn yr un modd, mae trapiau glud hefyd yn achosi dioddefaint i'r anifail sydd wedi'i ddal, gan gynnwys y cnofilod y'u bwriadwyd ar eu cyfer ac anifeiliaid eraill fel cathod.  Os yw anifeiliaid anwes fel cathod yn cael eu dal mewn trap glud, gall arwain at sefyllfa ofnadwy lle mae'n rhaid difa'r anifail oherwydd ei anafiadau.

Dim ond gwaharddiad rhannol y mae Llywodraeth y DU wedi deddfu ar ei gyfer yn Lloegr, ond bydd gwaharddiad llwyr yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, sy'n enghraifft arall lle mae Cymru ar flaen y gad yn y DU.

Er bod yn rhaid mynd ati i reoli cnofilod pan fo ymdrechion i'w hatal wedi methu, mae yna ffyrdd mwy dyngarol, wedi'u targedu, o wneud hynny.
Dywedodd y Gweinidog:

Dyw defnyddio maglau a thrapiau glud ddim yn gydnaws â'r safonau uchel rydyn ni'n ymdrechu i'w cyrraedd o ran lles anifeiliaid yma yng Nghymru.  Gall y dulliau hyn achosi llawer iawn o ddioddefaint a niwed i bob math o anifeiliaid.

Mae gwahardd maglau yn un o'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ers amser hir i wireddu'r ymrwymiad hwnnw.  Bydd y gwaharddiad hwn yn atal llawer o anifeiliaid, gan gynnwys y rheini na fwriadwyd y fagl ar eu cyfer, rhag dioddef.

Hanfod y gwaharddiad ar faglau yw atal dulliau creulon rhag cael eu defnyddio a 'dyw e' ddim yn atal pobl rhag defnyddio dulliau eraill o reoli anifeiliaid ysglyfaethus.

Mae yna hefyd lawer o ffyrdd mwy gwâr o reoli cnofilod na thrwy ddefnyddio trapiau glud.

Dw i'n falch bod Cymru yn arwain y ffordd ar y mater hwn, a byddwn ni'n parhau i ymdrechu i sicrhau safonau uchel o ran lles anifeiliaid.

O 17 Hydref ymlaen, bydd defnyddio maglau a thrapiau glud yn anghyfreithlon yng Nghymru. Gallai unrhyw un a geir yn euog o ddefnyddio magl wynebu carchar neu ddirwy ddiderfyn neu'r ddau.