Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (18 Gorffennaf), cyhoeddir ffigurau diweddaraf Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, ac maent yn dangos bod canran y boblogaeth sy'n cydsynio i roi organau yng Nghymru wedi cynyddu 7% ers y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Gymru y gyfradd gydsynio uchaf o blith gwledydd y DU, sef 77% ar hyn o bryd, cynnydd ar y gyfradd o 58% yn 2015, pan gyflwynwyd y system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Gall pob rhodd o organau achub bywyd rhywun arall. Dw i'n falch iawn o weld bod y ganran o bobl yng Nghymru sy'n cydsynio i roi organau yn parhau i gynyddu. Mae'n dangos bod cyflwyno'r system optio allan arloesol yn gweithio, ac mae'n wych gweld bod Lloegr a'r Alban bellach yn dilyn ein hesiampl.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb haelioni'r rhoddwyr a'u teuluoedd sydd wedi cefnogi'r system, a hefyd ymroddiad yr holl staff clinigol. Eu haelioni nhw i gyd sy'n golygu ein bod yn arwain y ffordd fel hyn. Mae'n hanfodol dweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau am eich penderfyniad ynghylch rhoi organau, er mwyn sicrhau bod yna fwy o roddwyr. Os ydych chi'n gwybod eich bod chi am roi eich organau, cofiwch ddweud wrthyn nhw. Bydd eich teulu yn rhan o unrhyw drafodaethau am roi organau os byddwch mewn sefyllfa i roi eich organau ar ôl ichi farw.”

Ar 1 Rhagfyr 2015, daeth Cymru y wlad gyntaf yn y DU i symud at system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau. O dan y system hon, os nad yw unigolyn wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn), na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – gelwir hyn yn ganiatâd tybiedig.

Mae'r ffigurau yn yr Adroddiad blynyddol 2018/19 ar Roi Organau a Gweithgarwch Trawblaniadau gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG yn dangos y canlynol ar gyfer Cymru:

  • Mae 40% o'r boblogaeth wedi ymuno â'r gofrestr optio i mewn, ac mae 5.9% o'r boblogaeth wedi ymuno â'r gofrestr optio allan.
  • O blith trigolion Cymru, roedd 96 o roddwyr yn bobl a oedd wedi marw ac roedd 44 yn rhoddwyr byw. Roedd hynny'n gynnydd o 18% yn nifer y rhoddwyr a oedd yn rhai a oedd wedi marw o'i gymharu â'r nifer y llynedd (87).
  • Roedd 171 o drawsblaniadau o roddwyr a oedd wedi marw i unigolion a oedd yn byw yng Nghymru.
  • Roedd 222 o bobl yn aros ar y Rhestr Aros Weithredol am Drawsblaniadau, a bu farw 24 o gleifion tra'n aros ar y Rhestr Weithredol. 
  • Roedd 15 o deuluoedd wedi gwrthod derbyn penderfyniadau eu hanwyliaid i roi eu horganau; roedd 4 wedi gwrthod derbyn penderfyniad optio i mewn eu hanwyliaid; ac roedd 11 o deuluoedd wedi gwrthod derbyn cydsyniad tybiedig.   

Cewch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23; mynd i https://llyw.cymru/rhoi-organau/cofrestru-eich-penderfyniad; neu drwy ddweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau.

Cyn gemau UK Transplant Iechyd San Steffan, sy'n dod i Gasnewydd ar 25-28 Gorffennaf, bydd tîm rhoi organau Llywodraeth Cymru yn ymweld a:

•    Dydd Iau 18 Gorffenaf Lido Ponty, Pontypridd - CF18 4PE 
•    Dydd Gwener 19 Gorffenaf Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd - CF19 4XW 
•    Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf - dydd Sul 28 Gorffennaf Rhodfa’r Friar, Casnewydd - NP20 1EA

Bydd y daith yn gorffen yn Rhodfa’r Friar, Casnewydd ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf lle bydd y tîm yn agor canolfan rhoi organau Cymru yn swyddogol, a fydd yn agored i ' r cyhoedd drwy ' r wythnos gyda gemau addysgol, arddangosfeydd a straeon am dderbynwyr a rhoddwyr.