Neidio i'r prif gynnwy

Yn ei ymddangosiad cyntaf ym Mhwyllgor Trafnidiaeth Senedd y DU fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, nododd Ken Skates ei dri chais i Lywodraeth y DU yn ogystal â'i uchelgais am system gwbl integredig, effeithlon sy'n diwallu anghenion teithwyr Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Galwodd am: 

  • Ymreolaeth lawn i fasnachfraint Cymru a'r Gororau.
  • Rôl bartneriaeth i ddylunio a rheoli gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan gwmnïau eraill sy'n effeithio ar deithwyr Cymru.
  • Sicrhau bod y corff rheilffyrdd integredig newydd (Great British Rail) yn atebol i Lywodraeth Cymru a'r Senedd am ei waith yng Nghymru.

Wrth siarad yn y pwyllgor yn gynharach heddiw [dydd Mawrth 21 Mai] dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:

Gallai a dylai'r bil hwn fod yn gam sylweddol ymlaen tuag at rôl gliriach i Lywodraeth Cymru.  Rydym am weithio mewn partneriaeth ar ddiwygio'r rheilffyrdd i ddarparu system symlach fwy effeithiol er budd teithwyr yng Nghymru a'r gororau.

Wrth fynd i'r afael â'r angen am fwy o bwerau yng Nghymru, dywedodd: 

Model presennol y diwydiant rheilffyrdd ar gyfer Cymru yw'r mwyaf cymhleth o holl wledydd y DU. Mae angen ei ddiwygio, a’n man cychwyn o hyd yw ein cais ers amser maith i ddatganoli seilwaith a gwasanaethau rheilffyrdd yn llawn - ynghyd â setliad ariannu teg.

"Rydym yn gweld datganoli rheilffyrdd ymhellach fel proses nid digwyddiad, a rydym yn credu fod lle i wella yn sylweddol o fewn y setliad datganoli presennol a thrwy ddull fesul cam o ddatganoli pwerau rheilffyrdd ymhellach.