Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gweithwyr ledled Cymru yn ennill sgiliau newydd ym maes tai, adeiladu ac ôl-osod, wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £655,000 i fynd i'r afael â'r prinder gweithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi yn y sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn cefnogi rhaglenni hyfforddi a lleoliadau gwaith â thâl fydd yn cael eu cynnal gan sefydliadau tai cymdeithasol a busnesau tai, gan helpu i adeiladu'r gweithlu medrus sydd ei angen i ddarparu cartrefi mwy fforddiadwy, carbon isel ledled Cymru.

Bydd dros 100 o bobl ifanc yn cael eu helpu i ddilyn gyrfaoedd gwyrdd, gyda sylw arbennig i fenywod, pobl anabl a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Yn ogystal, bydd model hyfforddi achrededig newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol tai cymdeithasol yn cael ei greu, iddynt allu parhau â'u datblygiad proffesiynol yn y maes gwaith blaenoriaeth hwn.

Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai:

Mae darparu cartrefi mwy fforddiadwy, carbon isel i bobl Cymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.

Er mwyn ei gwireddu, mae angen gweithlu medrus a chynaliadwy ar Gymru a dyna pam yr wyf mor falch y bydd y buddsoddiad heddiw yn helpu i greu cyfleoedd go iawn i bobl ifanc a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i weithio yn y sector tai, gan sicrhau bod gennym y gweithwyr proffesiynol sydd eu hangen i ddarparu'r tai sydd eu hangen.

Meddai Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: 

Sgiliau yw sylfaen Cymru gryfach. Mae'r buddsoddiad hwn yn agor drysau i bobl ifanc - yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu tangynrychioli yn y sector yn hanesyddol - gan roi'r offer iddynt ddatblygu gyrfaoedd go iawn gan ein helpu yr un pryd i ddarparu'r cartrefi fforddiadwy, gwyrdd y mae cymunedau ledled Cymru yn eu haeddu.

Bydd y buddsoddiad yn ariannu pedair rhaglen darged i gyd. Mae'r rhain yn cynnwys modiwlau hyfforddi achrededig ar gyfer gweithwyr proffesiynol tai cymdeithasol, cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau gwaith wedi'u hariannu'n llawn gyda chymdeithasau tai, a rhaglen sy'n cefnogi busnesau bach i ennill contractau cyhoeddus. 

Bydd y rhaglenni'n cael eu cyflwyno trwy bartneriaid sy'n gweithio law yn llaw â cholegau addysg bellach a chyflogwyr lleol.