Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd cerdyn newydd wedi'i rag-dalu yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i roi mwy o ddewis a rhyddid i bobl sy'n cael bwyd heb glwten ar bresgripsiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cerdyn yn caniatáu i bobl sydd â chyflyrau fel clefyd seliag a dermatitis herpetiformis gael mynediad at ystod ehangach o fwydydd heb glwten mewn archfarchnadoedd ac ar-lein, yn hytrach na dibynnu ar bresgripsiwn yn unig.

Mae'r cynllun cerdyn cymhorthdal ar gyfer bwyd heb glwten, sef y cynllun cyntaf o’i fath yn y DU, yn cynnig ffordd arall i bobl gael mynediad at y bwydydd hyn.

Bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o dymor yr hydref ymlaen, a bydd byrddau iechyd yn cysylltu â phobl sy'n cael bwyd heb glwten ar bresgripsiwn ar hyn o bryd wrth i'r cynllun fynd yn fyw yn eu hardal leol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

I bobl sy'n byw gyda chlefyd seliag, nid dewis yw dilyn deiet caeth heb glwten ond anghenraid meddygol.

Rydyn ni eisiau newid yr arfer o gyflenwi bwydydd heb glwten fel meddyginiaethau yng Nghymru, gan roi mwy o ryddid i bobl gael mynediad at y bwyd maen nhw eisiau ei fwyta, a hynny'n fwy cyfleus, i'w helpu i reoli eu cyflwr.

Bydd y cynllun yn cyfrannu at leihau beichiau gweinyddol ar feddygon teulu a fferyllfeydd, wrth hyrwyddo defnydd mwy effeithiol o adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r cynllun cerdyn newydd wedi cael ei brofi'n helaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Roedd Cherylee Barker yn rhan o'r cynllun peilot ac mae wedi bod yn defnyddio'r cerdyn ers 6 blynedd. Dywedodd:

Cefais ddiagnosis o glefyd seliag yn 2007 a sylweddolais yn gyflym y byddai cynnal deiet heb glwten yn gostus, gydag opsiynau siopa cyfyngedig a dewisiadau bwyd anwadal.

Fe wnes i fachu ar y cyfle i ymuno â'r cynllun peilot. Roeddwn i'n gallu rhoi cynnig ar gynnyrch newydd heb deimlo dan bwysau'n ariannol, a chael rheolaeth ar fy neiet eto.

Mae'r cerdyn yn fy ngalluogi i brynu'r bwyd rydw i ei eisiau ac i wneud dewisiadau gwell o ran ffordd o fyw. Mae'n un o'r pethau sydd wedi cyfrannu fwyaf at fy mywyd iachach.

Y deietegydd Alison Jones fu'n gyfrifol am arwain a gweithredu'r cynllun peilot yn llwyddiannus yn Hywel Dda. Dywedodd:

Fel deietegydd, rwy'n falch iawn o weld y cerdyn cymhorthdal wedi'i rag-dalu yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru ar gyfer pobl â chlefyd seliag.

O'r profiad o'i ddefnyddio yn Hywel Dda, rydyn ni'n gwybod bod y cerdyn yn rhoi mwy o ddewis, hyblygrwydd ac amrywiaeth i bobl, gan ei gwneud hi'n haws iddyn nhw reoli eu deiet heb glwten, wrth barhau i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Bydd pobl sy'n gymwys yn cael cynnig dewis rhwng presgripsiwn traddodiadol ar gyfer bwyd heb glwten neu'r cynllun cerdyn newydd, yn seiliedig ar eu hanghenion penodol.

Mae'r cerdyn digyswllt yn gweithio fel Mastercard cyffredin wedi'i rag-dalu, a chaiff arian ei ychwanegu ato bob 3 mis.