Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Ffrainc fel 'cyrchfan numéro un' ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru mewn dathliad bwyd yn Lyon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn diwydiant sy'n werth £150 miliwn i economi Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Hybu Cig Cymru, Arloesi Bwyd Cymru a chwmnïau bwyd a diod o Gymru i gynnal digwyddiad arddangos blasus fel rhan o'u presenoldeb yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd a menter 'Cymru yn Ffrainc' Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru yn Ffrainc yn ddathliad dros flwyddyn o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon sydd wedi'u cynllunio i gryfhau'r cysylltiadau presennol a meithrin cysylltiadau newydd rhwng y ddwy wlad. 

Daeth y digwyddiad heddiw [dydd Llun 25 Medi], a gynhaliwyd yn y Cite Internationale de la Gastronomie yn Lyon, â'r gorau o ddoniau bwyd, coginio a diwylliannol Cymru at ei gilydd, gan gynnwys cynhyrchwyr fel Distyllfa Penderyn, Snowdonia Cheese Company a Cwm Farm Charcuterie.

Lyon yw un o brif ddinasoedd Llywodraeth Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd diolch i ganolfan fwyd byd-eang y rhanbarth a’i statws fel ail ddinas Ffrainc. Mae'r ardal hefyd yn adnabyddus am ei gwerthoedd tebyg i Gymru gyda phwyslais ar gynhwysiant, amrywiaeth a chynaliadwyedd.

Mae Ffrainc nid yn unig y gyrchfan uchaf ar gyfer allforion bwyd a diod Cymru, ond hi hefyd yw ail fuddsoddwr mewnol mwyaf Cymru a'r bedwaredd gyrchfan allforio fwyaf ar gyfer nwyddau. Mae tua 81 o fusnesau o Ffrainc yng Nghymru yn cyflogi dros 10,000 o bobl.

Llywyddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans dros y digwyddiad, oedd yn cynnwys:

  • Danteithion blasus: cafwydd arddangosfa o lu o stondinau o ystod eang o gynhyrchion bwyd o Gymru sydd wedi cyrraedd y bwrdd bwyd yn Ffrainc. O gawsiau i gigoedd, cafodd y rhai oedd yn bresennol gyfle i flasu a dysgu am y bwydydd gwych hyn
  • Arddangosfeydd coginio: arddangosfa coginio byw, dan arweiniad y cogydd talentog o Gymru, Elwen Roberts
  • Celfyddydau diwylliannol: perfformiadau gan gôr yr Urdd, Cor Hafodwenog, a'r grŵp dawns cyfoes Qwerin - y ddau yn dangos amrywiaeth gyfoethog diwylliant Cymru

Meddai’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

Mae'r arddangosfa hon nid yn unig yn ddathliad o'n diwydiant bwyd a diod ffyniannus ond hefyd yn dyst i'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Ffrainc. Mae'n gyfle i flasu Cymru a chreu cysylltiadau parhaol a fydd yn gwneud mwy i wella ein hallforion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn bresenol mewn amrywiol weithgareddau diwylliannol yn Ffrainc drwy gyfnod Cwpan Rygbi'r Byd, wrth i drydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd gael ei gynnal yn y wlad tan ddiwedd mis Hydref.