Neidio i'r prif gynnwy

Mae pedwar deg pump o bobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi ennill medalau yng nghystadleuaeth sgiliau mwyaf y DU, WorldSkills UK.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Cymru ar frig y tabl enillwyr gyda 45 o fedalau, gan gynnwys 11 aur, 17 arian ac 14 efydd a chafodd 3 glod uchel yn y rownd derfynol a gynhaliwyd yn y Sioe Sgiliau fawreddog yn Birmingham rhwng 17 a 19 Tachwedd.

Mae WorldSkills UK yn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion i fod yn uchelgeisiol gan ddysgu sgiliau ar y lefel uchaf.

Brwydrodd mwy na 500 o brentisiaid, dysgwyr a myfyrwyr o bob cwr o’r DU mewn 61 cystadleuaeth sgiliau, yn amrywio o waith plymio a choginio i ddylunio’r we a blodeuwriaeth i gael eu coroni y gorau am eu sgiliau.

Roedd yn rhaid i’r cystadleuwyr ddangos eu harbenigedd gan gystadlu mewn cyfres o dasgau o flaen panel o feirniaid, o goginio pryd tri chwrs mewn steil mewn llai na thair awr i goluro a steilio gwallt ar gyfer priodas.

Mae’r enillwyr medalau o Gymru yn cynnwys un aur, tair arian ac efydd yn y cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol, a luniwyd i ddathlu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc ag anawsterau dysgu neu anableddau.

Mae Peter Rushforth, o Leeswood yn yr Wyddgrug, yn un o un ar ddeg a enillodd fedal aur. Dywedodd y bachgen 21 oed ei fod yn falch iawn o gynrychioli ei wlad yn y categori bwtsiera. 

“Roeddwn i’n cystadlu mewn pum gwahanol gategori yn y digwyddiad a phrofwyd fy holl sgiliau bwtsiera, gan gynnwys gwneud selsig, arddangos cig ar gyfer barbeciw a semio a thynnu esgyrn o gig eidion. Roedd chwech ohonom ni’n cystadlu a fi oedd yr unig un o Gymru eleni, felly roeddwn i’n chwifio’r ddraig goch dros fy ngwlad ac wrth fy modd fy mod wedi ennill y fedal aur.

“Ar hyn o bryd rwy’n bwrw fy mhrentisiaeth gyda Cambrian Training tra’n gweithio yn siop Swans Farm, Treuddyn, felly mae wedi bod yn dipyn o her i mi ar brydiau i wneud bob dim. Rwy’n credu y bydd ennill yr aur yn helpu fy ngyrfa; mae’n wych ar gyfer fy CV gan fod y Sioe Sgiliau yn uchel iawn ei pharch yn y diwydiant.

“Rydw i wedi cael cymaint o gefnogaeth gan fy nghyflogwr sydd wedi buddsoddi llawer o amser, ymdrech ac adnoddau - fyddwn i byth wedi gallu gwneud hyn ar fy mhen fy hun!

“Daeth Dad i’m casglu ar ôl i mi ddychwelyd o Birmingham, a’m gyrru yn y car o gwmpas pawb i ddangos fy ngwobr - fy rheolwr, mam-gu ac mae bellach yng nghabinet y siop i bob cwsmer ei weld!”

Efallai y bydd y cystadleuwyr llwyddiannus yn cael y cyfle nawr i gystadlu am le yn y tîm a fydd yn cynrychioli’r DU yn WorldSkills Kazan yn Rwsia yn 2019.

Mae WorldSkills yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop i hyrwyddo pwysigrwydd gweithlu medrus iawn, gan geisio hybu sgiliau lefel uchel yng Nghymru.

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol ers WorldSkills Llundain yn 2011. Mae mwy a mwy o Gymru wedi bod yn cystadlu o un flwyddyn i’r llall ac mae Cymru bellach ar frig tabl rhanbarthol y DU.

Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, yn credu bod y Sioe Sgiliau yn ffordd ragorol o gydnabod y doniau ifanc yng Nghymru. Ar ôl mynychu’r digwyddiad yn Birmingham ddydd Gwener a rhoi sylwadau ar y llwyddiant ysgubol o ran medalau yn y digwyddiad eleni, dywedodd y Gweinidog: 

“Dyma newyddion ardderchog i Gymru ac rwy’n falch iawn o bopeth mae Tîm Cymru wedi’i gyflawni yn y sioe eleni. Gyda Chymru yn anfon mwy o gystadleuwyr nag unrhyw ranbarth arall a’r tîm yn cipio 45 medal, maen nhw wir yn destun balchder.

“Mae mynychu’r Sioe Sgiliau yn uchafbwynt yn fy mlwyddyn gan fy mod yn cael gweld â’m llygaid fy hun yr unigolion medrus sy’n cael eu meithrin yma yng Nghymru.

“Sgiliau yw sylfaen ein bywydau o ddydd i ddydd, ac mae digwyddiadau fel hyn yn dangos pwysigrwydd sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu eu galluoedd ac yn helpu i leihau unrhyw ddiffygion sgiliau sy’n ein hwynebu yn y DU yn y pen draw.

“Mae angen gweithio’n galed a dangos penderfyniad i gystadlu yn erbyn prentisiaid a dysgwyr mwyaf talentog y DU ac rwy’n edrych ymlaen at gadw llygad ar gynnydd ein cystadleuwyr o Gymru – yng nghyfnod nesaf y gystadleuaeth neu yn eu gyrfaoedd llwyddiannus.”