Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ffigurau ar gyfer 9 mis cyntaf 2016 yn dangos y bu cynnydd sylweddol o 12% o ran nifer yr ymwelwyr tramor sy’n dod i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dangos i Gymru groesawu 856,000 o deithwyr tramor yn ystod 9 mis cyntaf 2016, sy’n gynnydd o 12% o’i gymharu â 9 mis cyntaf 2015 a’r cynnydd mwyaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig. 

Mae’r ffigurau’n dangos hefyd, er y bu cynnydd bach yn eu gwariant yn y DU drwyddi draw, bod gwariant ymwelwyr tramor â Chymru wedi cynyddu 9% o’i gymharu â  thri chwarter cyntaf 2015. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: 

“Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru. Rhaid llongyfarch y  diwydiant twristiaeth yng Nghymru a Croeso Cymru am y cynnyrch o ansawdd uchel, y buddsoddiad parhaus, y gwaith arloesol sy’n mynd rhagddo ac wrth gwrs y croeso - sy'n gwneud Cymru yn lle mor ddeniadol i ymwelwyr. Rydym wedi gweld gwaith arloesol o fewn y sector preifat sydd wedi elwa ar fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac sydd wedi arwain at  gynhyrchion sydd wedi rhoi sylw byd-eang i Gymru. Hefyd, mae’r hwb a roddwyd i broffil Cymru yn ystod yr Ewros y llynedd yn amhrisiadwy.

“Rhoddodd y Flwyddyn Antur yn 2016 ffocws ar gyfer marchnata a datblygu cynnyrch a hefyd resymau cryf dros  ymweld â Chymru.  Rydym  bellach  yn cyflwyno ymgyrch Blwyddyn Chwedlau 2017 o fewn ein marchnadoedd allweddol - gan ddechrau gyda'r Almaen. Ein nod yw cynnal y ffigurau gwych hyn, a hefyd anelu at gynyddu ein cyfran o'r farchnad o ymwelwyr o dramor i'r DU. Rydym  yn edrych ymlaen at weithio gyda'r diwydiant er mwyn elwa i’r eithaf ar y ffaith bod cyhoeddiad y Lonely Plant wedi enwi gogledd Cymru ymhlith y deg lle gorau yn y byd i ymweld ag ef yn ystod 2017. Rydym hefyd yn paratoi ar gyfer croesawu ymwelwyr i’r digwyddiad mwyaf un ym maes pêl-droed – Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA ym mis Mehefin.”

O Ewrop y daeth rhyw 70% o’r ymwelwyr rhyngwladol â Chymru a’r DU yn gyfan yn ystod naw mis cyntaf 2016.  Daeth cyfanswm o 594,000 o ymwelwyr o Ewrop i Gymru, sy’n 10% yn uwch na’r ffigur ar gyfer naw mis cyntaf 2015.  

Roedd nifer yr ymwelwyr o Ogledd America â Chymru (106,000) hefyd yn uwch – 9% - o’i gymharu â 9 mis cyntaf 2015.