Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Croeso Cymru a’i bartneriaid yn dangos y gorau y gall y wlad ei gynnig yn y sioe fasnach, y British Tourism and Travel Show.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y sioe dwristiaeth yw prif sioe fasnach y DU ar gyfer y diwydiant twristiaeth domestig. Disgwylir gweld mwy na 250 o stondinwyr a thros 3,000 o ymwelwyr – yn benderfynwyr ac yn fasnachwyr – dros ddeuddydd y sioe. Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 
“Mae’r gwanwyn yn dymor prysur yn y calendr sioeau twristiaeth. Yn yr wythnosau diwethaf, mae Croeso Cymru wedi bod yn brysur yn gwerthu Cymru trwy ei Sioe Deithiol Antur yn Explore GB a’r ITB Berlin i gynulleidfa ryngwladol.  Mae’r sioe hon yn gyfle i siarad yn uniongyrchol â threfnwyr teithiau ac asiantwyr gwyliau o’r farchnad ddomestig.   “Mae’n bwysig bod Cymru’n cael ei gweld yn y sioeau hyn er mwyn creu a meithrin perthynas â’r sector ddylanwadol hon a sicrhau bod Cymru ym mlaen eu meddyliau wrth iddyn nhw chwilio am gyrchfannau newydd ar gyfer eu cleientiaid.  “Mae presenoldeb yn y sioeau teithio yma yn rhan o ymdrech farchnata i werthu Cymru i'r byd fel erioed o'r blaen. Yn ddiweddar, fe lansiwyd ymgyrch farchnata  Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru.  Mae'r ymgyrch £5m yn rhaglen farchnata uchelgeisiol aml-farchnad, aml-sianel mawr.  Un elfen o’r ymgyrch yw  hysbyseb teledu a sinema arloesol –gyda’r actor Hollywood, Luke Evans yn serennu ynddi.  "Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref, cafwyd cynnydd o 12% yn nifer yr ymwelwyr rhyngwladol i Gymru a chynnydd o 51% mewn gwariant ymwelwyr undydd yn ystod 2016, rydym nawr yn edrych ymlaen at gynnal y ffigurau hyn yn ystod y Flwyddyn Chwedlau."
Bydd datblygiadau cynnyrch a agoriadau pellach yn parhau i ddenu sylw i Gymru yn ystod 2017.  Bydd  Fforest Coaster newydd Zip World  yn agor ar ôl Pasg a Pharc tonfyrdddio mewndirol newydd sbon yn agor yn Sir Benfro. Defnyddir y sioe hefyd fel llwyfan i godi ymwybyddiaeth digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd yn dod i Gaerdydd eleni – pan fydd Cymru'n cynnal  rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA ym mis Mehefin.