Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden wedi anfon neges pob lwc i dîm Cymru cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham, dywedodd Prif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog y bydd tîm Cymru'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr a phara-athletwyr i gystadlu dros eu cenedl ar y lefel uchaf.

Mae Gemau'r Gymanwlad yn gyfle i athletwyr Cymru gystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun, ochr yn ochr â 72 o wledydd eraill. Mae 199 o athletwyr a phara-athletwyr o Gymru yn cystadlu ar draws 15 o chwaraeon.

Mewn neges ar y cyd, estynnodd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog eu dymuniadau gorau i dîm Cymru ar ran Cymru oll.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

"Hoffwn ddymuno pob lwc i'n holl athletwyr wrth gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham ddiwedd y mis.

"Dyma gyfle gwych i arddangos y doniau gorau sydd gan Gymru ym maes chwaraeon. Mae hefyd yn ysbrydoliaeth i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon a gobeithio dod o hyd i'w harbenigedd eu hunain!"

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru hapus, iach ac egnïol, a does dim ysbrydoliaeth well i Gymry na pherfformiad tîm Cymru yn Birmingham. 

"Pob lwc i'n holl athletwyr gwych. Mae Cymru gyfan y tu ôl i chi! Pob lwc!"