Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais am gymorth Cymru Ystwyth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Disgrifiad o Cymru Ystwyth

Mae Rhaglen Lywodraethu a Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar y llwyfan byd-eang. Mae cydweithio â gwledydd a rhanbarthau eraill yn ychwanegu gwerth at ddatblygu economaidd yng Nghymru drwy alluogi partneriaid i gynyddu gweithgarwch, sicrhau màs critigol a chodi proffil. Mae cydweithio yn rhoi cyfle i gyfnewid syniadau ac arferion gorau, i ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau.

Mae Cymru Ystwyth yn rhaglen y gellir ei ehangu o weithredu wedi'i gydlynu, yn offeryn hyblyg i sicrhau mwy o gydweithio economaidd ar gyflymder, wedi'i arwain gan y Strategaeth Ryngwladol a'n polisïau economaidd. Mae hyn yn cynnwys dull grant hyblyg i gefnogi gweithgarwch trawsffiniol a rhyngwladol sy'n manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir ar draws themâu, sectorau ac ardaloedd daearyddol.

2. Y gweithgarwch a gefnogir

Gall cyllid Cymru Ystwyth gefnogi ystod eang o weithgarwch, gan ganolbwyntio ar y canlyniad a'r budd i Gymru. Lle bo'n briodol, gweler amodau unrhyw alwad benodol am geisiadau.

Yn gyffredinol, mae'r cynllun yn rhoi cymorth ariannol (refeniw) ar gyfer sbarduno neu hwyluso gweithgarwch sy'n adeiladu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithio mewn meysydd sydd â'r potensial i arwain at weithgarwch economaidd mwy cynaliadwy sydd o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod manteision diwylliannol a chymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.

Er enghraifft, gall gweithgarwch gynnwys rhwydweithio ac ymgysylltu, datblygu ceisiadau am gyllid, astudiaethau dichonoldeb, cydweithrediadau unigol, prosiectau peilot a chefnogi sefydliadau i gyflymu’r broses o weithredu eu strategaethau rhyngwladol.

Gall gweithgarwch nas cwmpesir gan alwad benodol am gyllid Cymru Ystwyth fod yn addas am gymorth. Mae gan Cymru Ystwyth ‘bot arian agored’ a all gefnogi ceisiadau ar unrhyw adeg. Mae ymgeiswyr i’r ‘pot arian agored’ yn cael eu hannog yn gryf i drafod eu syniadau gyda thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno cais.

3. Lefelau Grant a chyfraddau ymyrraeth

Bydd lefel y grant a’r cyfraddau ymyrraeth yn amrywio. Lle bo’n berthnasol, edrychwch ar amodau’r alwad benodol am geisiadau. Gall ffactorau megis y tebygolrwydd o lwyddiant, enillion posibl ar fuddsoddiad a risg gael eu hystyried.

Yn gyffredinol, mae Cymru Ystwyth yn darparu cymorth ariannol ar raddfa fach.  Nid oes trothwyon grant sefydlog, ond yn seiliedig ar brofiad, mae’r canlynol yn ganllaw:

  • Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £5,000 fesul cais gael ei  ystyried yn rhesymol.
  • Ar gyfer prosiectau strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £50,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol. Mae’n bosibl y bydd amodau galwad benodol am geisiadau hefyd yn diffinio’r hyn a ystyrir yn strategol a’r lefel ddisgwyliedig o grant. Mae’n bosibl y bydd y ‘pot arian agored’ hefyd yn gallu cynorthwyo ceisiadau strategol ond mae’n fwy tebygol o fod yn gyfyngedig yn ôl cyllideb. Cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses er mwyn trafod eich cais.

Mae’n bosibl y bydd cyfradd ymyrraeth o hyd at 100% ar gael lle bo cyfiawnhad dros hynny, ond bydd cais sydd yn pwyso ar gyllid ac adnoddau eraill yn cael ei ystyried yn ffafriol. Lle bo’n berthnasol, gwiriwch amodau’r alwad benodol am geisiadau.

NODER: gall cyfraith cystadleuaeth effeithio ar eich gallu i dderbyn arian cyhoeddus (gweler adran 11 isod).

4. Pwy all wneud cais am gymorth Cymru Ystwyth

Mae cymorth ar gael i sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru a all ddatblygu nodau strategol Cymru Ystwyth, fel y'u nodir yn Adrannau 1 a 2 o'r canllawiau hyn. Lle y bo'n briodol, bydd angen iddynt hefyd gyfrannu at weithgareddau ac amcanion penodol unrhyw alwad ariannu.

Efallai y bydd cwmnïau sydd wedi'u cofrestru mewn rhannau eraill o’r DU ond sy’n weithredol yng Nghymru yn gymwys ar y sail hon, ond efallai y gwrthodir rhoi cyllid i gwmnïau sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru ond nad ydynt yn weithredol yng Nghymru.

Efallai y bydd cymorth ar gyfer costau partneriaid nad ydynt o Gymru ar gael os byddant yn cael eu hysgwyddo ac yn cael eu hawlio gan y partner o Gymru. Yn yr un modd â phob cost, rhaid i'r rhain fod yn rhesymol, yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r gweithgarwch arfaethedig a rhaid iddynt gyd-fynd â nodau ac amcanion perthnasol. Fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses o ddatblygu eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio. Gall Cymru Ystwyth hefyd gefnogi Galwad ar y Cyd am gynigion gyda phartner rhyngwladol neu gyfeirio at gyfle ariannu cyfatebol a ddarperir yn gyfochrog. Yn yr achosion hyn, cyfeiriwch at amodau'r alwad benodol am geisiadau.

5. Costau cymwys ac anghymwys ac eithriadau nodedig

Mae costau sy'n cyfrannu at nodau strategol Cymru Ystwyth, fel y'u nodir yn Adrannau 1 a 2 o’r canllawiau hyn, yn gymwys.

Gweler yr enghreifftiau isod, ond cyfeiriwch hefyd at amodau unrhyw alwad benodol am geisiadau.

NODER: oni bai eich bod wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru, ni chewch ysgwyddo costau cyn i gais gael ei gymeradwyo.

Gwariant Cymwys

  • Teithio a llety rhad a/neu garbon isel
  • Teithio yn y wlad, gan gynnwys trosglwyddo a pharcio
  • Trafnidiaeth gyhoeddus, teithio mewn car (ar gyfradd o 45c y filltir neu gyfradd eich sefydliad, p'un bynnag yw'r isaf)
  • Aelodaeth a/neu ffioedd i gymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol allweddol neu rwydweithiau allweddol yn y DU
  • Gellir ystyried costau eraill mewn perthynas ag ymgysylltu, er enghraifft cyfieithu, llogi ystafell neu gostau fisa
  • Arbenigedd wedi'i gontractio neu arbenigedd arall ar gyfer ysgrifennu neu adolygu cynigion ar gyfer cyllid cystadleuol (ac eithrio cyllid Llywodraeth Cymru)
  • Arbenigedd wedi'i gontractio neu arbenigedd arall i ddatblygu sylfaen dystiolaeth neu astudiaeth dichonoldeb
  • Darpariaeth wedi'i chontractio neu ddarpariaeth arall i hwyluso rhwydweithiau, cyfarfodydd consortiwm a gweithdai datblygu ceisiadau
  • Arbenigedd wedi'i gontractio neu arbenigedd arall ar gyfer datblygu, negodi a chwblhau cytundebau consortiwm
  • Costau teithio ar gyfer isgontractwyr (gallent gynnwys partner nad yw o Gymru)
  • Costau hyfforddiant, gan gynnwys datblygu hyfforddiant pwrpasol sy’n ychwanegu gwerth at ddarpariaeth bresennol  
  • Costau staff lle maent yn cynrychioli amser ychwanegol staff a'r “gwerth gorau neu'r unig ffordd o gyflawni amcanion y gweithgarwch” (bydd angen taflenni amser staff a thystiolaeth o'r taliad)
  • Deunyddiau ar gyfer darparu prosiectau peilot neu gydweithrediadau eraill (bydd angen anfonebau gwreiddiol a dalwyd, a derbynebau ac ati)
  • Monitro allbynnau a chanlyniadau perthnasol
  • Cyhoeddusrwydd a lledaenu gweithgarwch a chanlyniadau

Gwariant Anghymwys​​​​

  • Costau nad ydynt yn ymwneud ag amcanion Cymru Ystwyth neu, fel arall, nad ydynt yn cynnig gwerth am arian, megis costau teithio rheolaidd, gweithgarwch craidd neu gostau cyfalaf sylweddol.
  • Costau ychwanegol nad ydynt yn cyflawni amcanion Cymru Ystwyth (e.e. arhosiad estynedig ar ôl digwyddiad cydweithredol, pecynnau gwaith nad ydynt yn hanfodol).
  • Efallai y bydd cymorth mwy priodol ar gael ar gyfer astudiaethau dichonoldeb cyffredinol nad ydynt yn targedu cyfle penodol yn unol ag amcanion Cymru Ystwyth, drwy gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU
  • Costau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithgarwch penodol fel y'i disgrifir yn eich ffurflen gais gymeradwy i Cymru Ystwyth, e.e. cynghorwyr cwmni parhaus/a gadwyd.
  • Caffael partneriaid consortiwm prosiect fel ymgynghorwyr (ond gellir ystyried eithriadau fesul achos).
  • Costau sydd eisoes wedi eu talu gan gontract cyflogaeth

Eithriadau nodedig

  • Costau a aed iddynt cyn y dyddiad cymeradwyo oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig. Costau yw ymrwymiadau i dalu, fel archebion hedfan a gwesty na ellir eu hadfer yn llawn ar ôl canslo.
  • Mae TAW y gellir ei hadennill yn anghymwys.
  • Gweithgarwch a chostau a allai gael eu cefnogi gan ffynhonnell arall o gyllid. Mae hyn yn cynnwys arian gan sefydliad yr ymgeisydd yn ogystal â chynlluniau grant eraill a allai fod yn fwy addas.

Ar gyfer teithio, mae’n rhaid defnyddio opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian a/neu opsiynau carbon isel, o ystyried amcanion y gweithgarwch. Mae’n rhaid dilyn polisïau sefydliad yr ymgeisydd. Rydym yn disgwyl i gostau llety fod o fewn cyfraddau meincnod CThEM ac efallai y byddwn yn cyfyngu ein grant i'r cyfraddau hynny oni bai bod cyfiawnhad penodol dros gostau uwch.

Mae angen cyfiawnhad ar gyfer mwy nag un person yn teithio o bob sefydliad e.e. dod â sgiliau hanfodol i'r cyfarfod neu fynychu cyfarfodydd cyfochrog.

Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf er mwyn symleiddio’r broses hawlio.

6. Allbynnau a Chanlyniadau

Rhaid i’ch cais nodi pa allbynnau y bydd y prosiect yn eu cyflawni yn ystod ei gyfnod gweithredol a’r canlyniadau a allai ddilyn o hynny yn y tymor byr a’r tymor canolig. Bydd angen rhesymeg ymyrraeth eglur rhwng y math o weithgarwch arfaethedig a’r allbynnau a’r canlyniadau arfaethedig. Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o allbynnau a chanlyniadau ond mae’r canlynol yn ganllaw:

Allbynnau posibl

  • Nifer yr ymgysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol
  • Nifer yr ymgysylltiadau â phartneriaid yn y DU
  • Nifer y rhwydweithiau ffurfiol yr ymunwyd â hwy
  • Nifer y ceisiadau am gyllid cystadleuol
  • Nifer y cyfranogwyr a hyfforddwyd
  • Nifer y cydweithrediadau newydd
  • Nifer yr astudiaethau dichonoldeb a gwblhawyd
  • Nifer y prosiectau peilot a gwblhawyd

Canlyniadau posibl

  • Nifer y partneriaethau rhyngwladol neu bartneriaethau yn y DU a oedd yn bodoli eisoes a gafodd eu cynnal
  • Nifer y partneriaethau rhyngwladol newydd neu bartneriaethau newydd yn y DU a sefydlwyd
  • Nifer y rhwydweithiau ffurfiol newydd a grëwyd
  • Y swm o arian cystadleuol a ddyfarnwyd (£oedd)
  • Nifer y cyfleoedd mewnfuddsoddi a nodwyd
  • Nifer y sefydliadau yng Nghymru sy’n cymryd rhan sydd wedi cynyddu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u harbenigedd
  • Nifer y cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd a grëwyd

Byddwn yn cofnodi allbynnau a chanlyniadau uniongyrchol fel rhan o’r broses hawlio; bydd y dystiolaeth angenrheidiol yn gymesur i’r grant a ddyfernir. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd hunanddatgan yn briodol mewn nifer o achosion. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi chwe mis ar ôl i’r gweithgarwch ddod i ben neu yn ystod cyfnod sydd yn berthnasol i’r prosiect i nodi unrhyw ganlyniadau pellach. Bydd y data a gesglir yn cael eu bwydo i unrhyw werthusiadau o effaith Cymru Ystwyth, ac mae’n bosibl y cysylltir â chi at ddibenion gwerthuso, er enghraifft i archwilio barn mwy ansoddol o’r effaith.

7. Sut i wneud cais am gymorth Cymru Ystwyth

Os nad oes gennych brofiad blaenorol o gael gafael ar gymorth Cymru Ystwyth, rydym yn eich annog i siarad â ni cyn gwneud cais er mwyn sicrhau bod eich prosiect arfaethedig yn cyd-fynd â’n hamcanion a bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei chynnwys yn eich cais. Cysylltwch â thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru drwy CymruYstwyth@llyw.cymru.

Edrychwch hefyd ar unrhyw ddogfen ynglŷn â galwad am gyllid Cymru Ystwyth sy’n berthnasol i gael manylion penodol ynghylch sut i wneud cais a’r dyddiadau cau cysylltiedig.

Mae'r ffurflen gais ar gael ar-lein.

Rydym yn derbyn ceisiadau wedi'u llofnodi ar ffurf ffeiliau pdf wedi'u sganio, y dylech eu hanfon i CymruYstwyth@llyw.cymru.

7.1 Dyfynbrisiau am waith wedi'i gontractio

Rhaid i bob cais sy'n gofyn am waith wedi’i gontractio ddarparu un neu fwy o ddyfynbrisiau (Noder - cyfanswm y gwerth yw cost y gwaith a is-gontractiwyd nid y lefel grant y gofynnir amdano):

  • Dim ond un dyfynbris sydd ei angen os yw'r contract yn £4,999.99 neu lai, ond efallai y bydd angen cyflwyno tystiolaeth o arbenigedd y contractwr a dadansoddiad o'r gwaith arfaethedig.
  • Ar gyfer contractau gwerth mwy na £4,999.99, bydd angen tri dyfynbris gan wahanol ymgynghorwyr.   Gall y meini prawf ar gyfer dewis y contractwr buddugol gynnwys ansawdd yn ogystal â phris; bydd angen adroddiad byr arnom i ddangos bod y broses o ddewis contractwr yn deg ac agored. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r un briff i'r ymgynghorwyr ar yr un pryd. 

Os na fyddwn wedi ein darbwyllo bod y farchnad wedi'i phrofi i lefel a fyddai'n gwrthsefyll archwiliad, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o ddyfynbrisiau neu gyfiawnhad pellach.

Pan fydd gan sefydliad bolisi prynu ysgrifenedig eisoes sy'n sicrhau gwerth am arian ac a fu'n destun proses briodol i'w fabwysiadu gan y sefydliad, rydym yn disgwyl i'r sefydliad ddilyn y polisi hwn, gan gydnabod y gall ddefnyddio trothwyon/gweithdrefnau gwahanol i'r rhai a argymhellwyd uchod.

8. Y broses arfarnu ac amserlenni

Rydym yn ymdrechu i arfarnu ceisiadau cyn gynted â phosibl, (gweler y diagram isod), ac mae ein prosesau’n gymesur â swm y grant y gofynnir amdano. Os oes unrhyw frys, trafodwch gyda ni ymlaen llaw cyn ysgwyddo unrhyw gostau cymwys.

Cynllun ariannu sy'n seiliedig ar gais yw Cymru Ystwyth. Hynny yw, lle dyfernir grant yn unol â chanlyniad arfarniad o ffurflen gais. Mae’n bosibl y bydd y broses a'r amserlen ar gyfer arfarnu yn amrywio, gan ddibynnu a ydych yn gwneud cais am alwad benodol am geisiadau ai peidio. Lle bo'n berthnasol, cyfeiriwch at yr alwad ariannu benodol i Cymru Ystwyth i sicrhau eich bod yn cyflwyno'ch cais/ceisiadau erbyn unrhyw ddyddiad cau penodedig.

NODER: ar gyfer grantiau cystadleuol neu gylchoedd ceisiadau bydd cyfnod penodol ar gyfer ymgeisio, gyda dyddiadau agor a chau wedi'u pennu'n glir ar gyfer cyflwyno ceisiadau. Er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb i bob ymgeisydd, ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau penodedig ar gyfer cyflwyno cais yn cael eu hystyried.

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod ceisiadau nas derbyniwyd gennym o fewn amserlen resymol neu sy'n sylweddol anghyflawn.

Tua 2 wythnos ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau ond gallai hyn gynyddu yn ystod cylchoedd ceisadau cystadleuol a galwadau ar y cyd.

Cyflwyno cais wedi'i lofnodi
Llenwch gyda gwybodaeth ategol, e.e. dyfynbrisiau a datganiad Cymhorthdal y DU lle bo'n briodol.

Cais yn cael ei asesu
Gan gynnwys asesiad yn erbyn y meini prawf perthnasol a gwiriadau hyfywedd ariannol sylfaenol. Gofynnir am gyngor technegol a chyngor polisi allanol lle bo angen.

Cadarnhau'r canlyniad
Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted ag y gwneir penderfyniad. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, anfonir e-bost yn cadarnhau dyfarniad o ran egwyddor fel y gallwch fynd i wariant ar eich risg eich hun, yn ddarostyngedig i gytuno i delerau ac amodau'r llythyr cytuno i roi grant. Efallai y byddwn yn cymeradwyo ceisiadau gydag amodau.

Anfon y llythyr cytundeb grant
Anfonir hwn dros e-bost ynghyd â chyfarwyddiadau ac amserlenni ar gyfer derbyn y llythyr cytundeb grant.

Derbyn llythyr cytundeb grant
Derbyn y cynnig o gyllid drwy lofnodi a dychwelyd copi o'r llythyr cytundeb grant inni cyn pen 21 diwrnod i ddyddiad y llythyr.

9. Meini prawf asesu

Caiff pob cais ei asesu yn ôl y meini prawf yn y tabl canlynol a, lle bo’n berthnasol, a nodwyd yn nogfen yr alwad benodol.

Bydd y tîm arfarnu yn ceisio cyngor gan Lywodraeth Cymru yn ôl yr angen i sicrhau gwerth am arian a bod y cais yn cyd-fynd â pholisïau perthnasol. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod ceisiadau ac i amrywio symiau/cyfraddau'r grant.

Byddwn yn cynnal gwiriadau Dilysrwydd Dyladwy, gan ddefnyddio ffynonellau fel Creditsafe, y Gronfa Ddata Twyll Genedlaethol (CIFAS), Tŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennau.

Byddwn yn gofyn am gyngor technegol a chyngor polisi allanol lle bo angen, er enghraifft oddi wrth gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr y sector yn y DU, yn Ewrop ac yn rhyngwladol, ond byddwn yn gwneud ymdrechion rhesymol i roi gwybod i ymgeiswyr cyn gwneud hynny.

Bydd Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol ar geisiadau, hawliadau, taliadau a'r holl faterion eraill sy'n ymwneud â Cymru Ystwyth. Er ein bod yn gwerthfawrogi adborth i wella ein gwasanaeth, mae ein penderfyniad yn derfynol ac nid oes hawl i apelio.

Meini Prawf Asesu Cyffredinol

  • Graddfa'r cyfraniad at amcanion Cymru Ystwyth (gweler Adran 1 a 2).
  • Bod y costau cymwys a ragwelir yn rhesymol ac wedi'u nodi'n glir.
  • Bod y grant y gofynnir amdano yn dderbyniol ac yn rhesymol, ac o fewn y terfynau a nodir yn adran 3 uchod. 
  • Tystiolaeth o’r angen am y grant.
  • Eglurder y rhesymeg ymyrraeth o’r gweithgarwch arfaethedig i’r allbynnau a’r canlyniadau arfaethedig.
  • Maint yr enillion disgwyliedig ar fuddsoddiad i Gymru.
  • Pwysigrwydd y partner rhyngwladol neu yn y DU a/neu’r rhanbarth a/neu’r sector a/neu'r maes gweithgarwch i bolisi Llywodraeth Cymru.
  • Perthnasedd y profiad a chymwysterau'r ymgeisydd.
  • Bod y sefydliad yn ariannol hyfyw h.y. mae ganddo’r adnoddau angenrheidiol i reoli'r gweithgarwch arfaethedig yn y dyfodol, gan gynnwys cynnal rhwydweithiau ac adnoddau ariannol i dargedu cyfleoedd.
  • Cydymffurfiad â rheolau Cymhorthdal y DU a chaffael, lle y bo'n gymwys.
  • Y gyllideb sydd ar gael

10. Sut i hawlio’r grant

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi derbyn y cynnig o gyllid drwy lofnodi'r llythyr cytundeb grant a'i ddychwelyd atom o fewn 21 diwrnod i ddyddiad y llythyr. 

Dylid cyflwyno hawliadau yn brydlon yn dilyn y gweithgaredd a RHAID eu hawlio ddim hwyrach na'r dyddiad cau a nodir yn y llythyr cytundeb grant.

Telir y grant ar ôl i'r wybodaeth a nodir yn adran 6 o’r llythyr cytundeb  grant gael ei chyflwyno yn brydlon ac yn unol â’r terfyn(au) amser a nodir yn atodlen 4.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gyflwyno rhywfaint neu’r cyfan o’r canlynol ar gyfer eich hawliad:

  • Prawf o wariant (anfonebau, derbynebau ac ati gwreiddiol a dalwyd) o'r holl gostau cymwys gan gynnwys datganiad milltiroedd os yw'n berthnasol.
  • Ffurflen hawlio wedi'i chwblhau a ffurflen adrodd am gyllid
  • Anfoneb wedi'i thalu gan y contractwr yn nodi costau.
  • Anfoneb ar bapur â phennawd eich sefydliad sy'n nodi faint o gyllid y gofynnir amdano gan Lywodraeth Cymru.
  • Tystiolaeth o'r gyfradd gyfnewid yn cael ei chymhwyso i'r costau a hawliwyd (e.e. manylion y gyfradd gyfnewid ar y dyddiad yr ysgwyddwyd y costau).
  • Datganiad banc i ddangos tystiolaeth o daliadau.
  • Taflenni amser ar gyfer costau staff gyda thystiolaeth o daliad (e.e. sgrinlun o'r gyflogres).
  • Tystiolaeth sy'n datgan pam nad oes modd adennill TAW.
  • Tystiolaeth o allbynnau a chanlyniadau perthnasol e.e. cyflwyno cais ffurfiol am gyllid arall.

Lle bo’n gymesur, caiff Llywodraeth Cymru gadw hyd at 10% o'r swm a hawliwyd nes ei bod yn derbyn tystiolaeth o’r allbwn neu’r canlyniad perthnasol.

Mae’n bosibl cyflwyno mwy nag un hawliad (ac eithrio hawliadau o flaen llaw), yn enwedig os yw eich prosiect yn golygu cyfnodau o weithgarwch ar draws y flwyddyn ariannol, ond trafodwch hyn mewn da bryd gyda Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru.

11. Cadw cofnodion, ymdrin â gwybodaeth a GDPR y DU

Mae'r Llythyr Cynnig Grant yn cynnwys amodau sy'n ymwneud â chadw dogfennau ond, yn gyffredinol, mae'n rhaid cadw anfonebau, taflenni amser, derbynebau a chofnodion eraill sy'n ymwneud â gwariant cymwys am 5 mlynedd o ddyddiad unrhyw ddyfarniad sy'n deillio o'r cais hwn. 

Mae'n rhaid darparu'r holl wybodaeth i Lywodraeth Cymru, eu holynwyr neu eu hasiantau penodedig ar gais at ddibenion archwilio. 

Trosglwyddo gwybodaeth am fy nghais i bartïon eraill â diddordeb:

Wrth asesu eich cais, efallai y byddwn yn ceisio cyngor ar ei rinweddau (gweler Adran 8).                                                                          

O dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddatgelu faint o grant Cymru Ystwyth a ddyfarnwyd ac enw'r derbynnydd. Noda cod ymarfer presennol Llywodraeth Cymru y caiff yr holl wybodaeth gofnodedig a ddarperir gan drydydd partïon ei hystyried i'w datgelu os gofynnir amdani.

Caiff yr wybodaeth rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian a chadarnhau pwy ydych. Os canfyddir twyll, mae'n bosibl y gwrthodir rhoi gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth benodol i chi yn y dyfodol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am sut y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data trwy gysylltu â DataProtectionOfficer@llyw.cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru am ddefnyddio testun y cytunwyd arno â chi at ddibenion cyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â llwyddiant unrhyw gais a/neu unrhyw lwyddiant dilynol a gewch o bosibl.

Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn ailwampio Deddf Diogelu Data 1998 flaenorol y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach a mwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd y data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu'ch cais am arian grant. Caiff yr wybodaeth ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu i asesu p'un a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi arian grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian a chadarnhau pwy ydych. Mae'r gwiriadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod rhoi'r arian y gwnaethoch gais amdano, neu efallai y byddwn yn rhoi'r gorau i ddarparu arian grant presennol i chi.

Caiff cofnod o unrhyw risg o ran twyll neu wyngalchu arian ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a gall arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. 

Rydym yn rhag-weld y gallai data personol gael eu defnyddio yn y ffyrdd canlynol wrth reoli Cymru Ystwyth. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr:

  • Er mwyn prosesu ceisiadau, bydd angen data personol megis enw, dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol a manylion cyswllt yr ymgeisydd arnom.
  • Er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch cyllid, efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth mewn perthynas â'n meini prawf asesu, megis arbenigedd a phrofiad unigolion allweddol sy'n ymwneud â'r cais. Os mai buddsoddwyr preifat yw'r unig dystiolaeth o hyfywedd ariannol, efallai y bydd angen inni gael prawf o'u hymrwymiad.
  • Pan fyddwch yn cyflwyno dyfynbrisiau am waith wedi'i gontractio, gall y dyfynbrisiau gynnwys data personol megis enwau ar docynnau awyren neu wybodaeth am daliadau.
  • Adeg hawlio grant bydd angen inni gadarnhau bod y derbynebau a'r dogfennau eraill a ddarperir gennych yn ymwneud â'r gweithgarwch a nodir yn y cais. Gellir cynnwys gwybodaeth bersonol mewn derbynebau o'r fath, megis enw, manylion cyswllt a manylion talu'r unigolyn sy'n prynu.

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data wrth gyflwyno data personol inni. Os na allwch anfon data personol sydd eu hangen arnom er mwyn rheoli arian cyhoeddus yn gyfrifol atom, efallai y byddwn yn gwrthod talu grant. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, caiff eich data personol eu cadw am 10 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch, fel derbynnydd grant, yn rhydd o'r holl amodau sy'n ymwneud â'r grant a ddyfarnwyd a phan fydd yr holl daliadau wedi'u gwneud. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, cedwir eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu rhoi inni.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch;
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data;
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data;
  • i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data: 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru 

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

12. Rheolau Cymhorthdal y DU

Rhaid i ddyfarniadau cymorth ariannol a roddir gan awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â chyfrifoldebau a nodir yng nghyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU ac ymrwymiadau rhyngwladol i fasnach rydd.

Bydd yr holl geisiadau a chymorth ariannol a geisir yn cael eu hasesu yn erbyn y diffiniad o gymhorthdal a nodir yn y Ddeddf (y prawf pedair elfen) a, lle bo cymorth yn bodloni’r diffiniad, bydd y sefyllfa gymhorthdal briodol yn cael ei hystyried yn unol â’r Ddeddf.

Ar gyfer gweithgarwch aneconomaidd a wneir gan Sefydliadau Addysg Uwch neu'r sector cyhoeddus, mae’n bosibl na fydd y grant yn bodloni pob un o’r pedwar maen prawf, ac os felly gall darparu cymorth fynd rhagddo drwy’r broses ddyfarnu safonol ar sail ‘dim cymhorthdal’.

Mae darparu cymorth i fusnesau a sefydliadau sy'n ymwneud â gweithgarwch economaidd drwy gynnig nwyddau neu wasanaethau ar farchnad (“cyfranogwr economaidd”) â'r potensial i fodloni'r diffiniad o gymhorthdal.

Mae’r cymorthdaliadau lleiaf wedi eu heithrio rhag y rhan fwyaf o reolau rheoli cymorthdaliadau. Mae Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA) yn caniatáu awdurdodau cyhoeddus i ddyfarnu cymorthdaliadau o werth isel heb orfod cydymffurfio â’r mwyafrif o’r gofynion rheoli cymorthdaliadau. Mae Pennod 7 o Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn egluro pryd y gellir defnyddio Cymorth Ariannol Lleiaf, y trothwyon perthnasol, a’r rheolau cronni.

Mae trothwy ariannol i’r Cymorth Ariannol Lleiaf sy’n atal mentrau rhag gallu cael nifer o gymorthdaliadau sydd yn cael eu hystyried yn rhai gwerth isel ar eu pen eu hunain, ond a allai o’u cronni greu ystumiadau pe bai eu gwerth cyfunol yn fwy na’r trothwy. Trothwy y lwfans yw £315,000 o fewn y cyfnod cymwys, sef y:

  • rhan o’r flwyddyn ariannol bresennol a aeth heibio (hynny yw, o 1 Ebrill), a’r
  • ddwy flynedd ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol bresennol.

Os bydd cymhorthdal yn cael ei ddyfarnu yn seiliedig ar Gymorth Ariannol Lleiaf, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd ddatgan na fydd y trothwy yn cael ei groesi gan yr ymgeisydd sy’n cael y cymorth ariannol arfaethedig. Mae tabl wedi'i gynnwys ar y ffurflen gais i restru cymhorthdal arall a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod cymwys. Er enghraifft, dylid ystyried y canlynol i gyd:

  • Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA)
  • cymorth Gwasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI) 
  • cymorth a roddir o dan reoliadau cymorth de minimis Gwladol yr UE un ai cyn diwedd y cyfnod gweithredu o 31 Rhagfyr 2020 neu ar ôl y dyddiad hwn, os yn rhinwedd protocol Gogledd Iwerddon; a
  • chymorthdaliadau a roddir fel symiau bach o gymorth ariannol (SAFA) o dan Erthyglau 364(4) neu 365(3) o Gytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU-UE ar ôl diwedd y cyfnod gweithredu ond cyn i adran hon y Ddeddf ddod i rym.

Ni ellir rhoi Cymorth Ariannol Lleiaf ychwanegol i fuddiolwr sydd eisoes wedi cyrraedd eu trothwy Cymorth Ariannol Lleiaf.

Ymholiadau pellach

Cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn neu unrhyw agwedd arall ar Cymru Ystwyth. Gall trafod yn gynnar yn y broses osgoi problemau a gwella’r siawns o gael cais llwyddiannus.