Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y ffilm ddilyniannol gan LucasFilm i Willow y bu cymaint o ddisgwyl amdani yn taro’n sgriniau ar 30 Tachwedd. Mae’n un o’r gyfres o gynyrchiadau sydd wedi’u ffilmio yng Nghymru gyda chefnogaeth Cymru Greadigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda chynyrchiadau mawr eu bri gan stiwdios mwya’r byd yn cael eu gwneud yng Nghymru, mae Cymru Greadigol yn datgan bod brandiau fel Lucasfilm, Netflix a Bad Wolf wedi denu dros 22 o brosiectau a chyfrannu dros £155.6m i’r economi leol ers sefydlu Cymru Greadigol yn 2020.

Cafodd y wreiddiol ei ffilmio yng Nghymru dros 30 o flynyddoedd yn ôl a bydd y gyfres newydd yn dangos rhai o fannau cudd mwyaf hudolus y wlad – gan gynnwys pentrefi tlws, adfeilion canoloesol ac un o draethau hira’r byd.

Dywedodd Lynwen Brennan, Is-Lywydd Gweithredol LucasFilm, yn ddiweddar am ffilmio Willow yng Nghymru:

“Mae’r diwydiant ar ei anterth ar y funud ac mae gan Gymru gyfuniad rhyfeddol o asedau. Mae gennym gyfleusterau llwyfannu eithriadol, tirweddau hardd a thalentau mawr. Ac wrth gwrs, a finne’n Gymraes, roedd hynny’n beth gwych i’w weld.”

Mae cwmnïau cynhyrchu a ffilm rhyngwladol yn hyderus y bydd Cymru’n gallu cystadlu ar lwyfan y byd oherwydd y dewis anferth o leoliadau ffilmio sydd gennym, ynghyd ag 822,705 tr sg o ofod mewn saith stiwdio ar draws y wlad, a gweithlu dawnus. 

Mae sgiliau a hyfforddiant yn flaenoriaeth i Gymru Greadigol ac mae arian wedi’i fuddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi a gwella sgiliau ym mhob rhan o’r sector.  Wrth gynhyrchu Willow, creodd Cymru Greadigol gyfleoedd i 25 o bobl dan hyfforddiant i fynd ar leoliadau cyflogedig mewn rolau pwysig, a darparodd arian ychwanegol i wneud setiau’n fwy hygyrch ac i helpu gyda lles meddwl.

Dywedodd Lynwen Brennan:

“Yr un yw ein hamcanion ni [Lucasfilm] â rhai Cymru Greadigol. Rydyn ni am i’r diwydiant dyfu; rydyn ni am i’n set sgiliau dyfu. Mae yna lawer iawn o opsiynau yn y diwydiant ffilm, pa beth bynnag yw’ch set sgiliau. Pa beth bynnag yw’ch diddordebau, mae yna le fwy na thebyg i chi yn y diwydiant ffilmiau. Curwch ar y drws yna’n gyson. Mae lle i chi ac mae’r lle hwnnw i chi yng Nghymru.”

Gyda gwaith saethu ffilmiau drudfawr fel Havoc newydd ddod i ben a chyfresi sydd wedi’u gwneud yng Nghymru fel Willow, His Dark Materials 3 a phedwaredd gyfres Sex Education ar fin cyrraedd ein sgriniau, mae’r economi greadigol leol yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, mae Sgrin Cymru, gwasanaeth lleoliadau Cymru Greadigol, wedi cael dros 900 o ymholiadau gan griwiau a chwmnïau teledu sydd am fanteisio ar gyfleusterau ardderchog y wlad.

 Yn 2021 yn unig, gwelodd sector sgrin Cymru drosiant o £575 miliwn, cynnydd o 36% ers y blwyddyn cynt. Mae Adroddiad Sgrin Sefydliad Ffilm Prydain yn dangos bod buddsoddiad cyrff fel Cymru Greadigol mewn ffilmiau wedi esgor ar naw gwaith y cynnydd yn allbwn economaidd y wlad.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Mae’r gyfres hon yn rhoi cyfle ardderchog arall i roi llwyfan byd-eang i Gymru. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi LucasFilm i ddod yn ôl i Gymru. Rydyn ni’n disgwyl mlaen yn ofnadwy at y byd yn gweld Cymru ar sgrin – ac mae hyn wedi bod yn sut gyfle ffantastig i’r bobl dan hyfforddiant sydd wedi ennill profiad amhrisiadwy o weithio ar gynhyrchiad mawr.”