Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yw'r lle ar gyfer gwyliau anhygoel yr hydref hwn wrth i'r ffigurau ddangos cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ym maint y gwariant dros yr haf

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl ffigurau a ryddhawyd heddiw, roedd 4.24 miliwn o deithiau dros nos i Gymru o Brydain Fawr rhwng misoedd Ionawr a Mehefin 2017, sy'n gynnydd o 6.3% o gymharu â'r un cyfnod yn 2016. Gwelwyd cynnydd hefyd yn y gwariant yn ystod y cyfnod hwnnw. Cododd i £724 miliwn, sy'n gynnydd o 9.5% o gymharu â'r cyfnod rhwng misoedd Ionawr a Mehefin yn 2016.

Mewn cymhariaeth, gwelwyd gostyngiad bach yn nifer y teithiau a'r nosweithiau ym Mhrydain Fawr rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2017 o gymharu â'r un cyfnod yn  2016, gyda 53.09 miliwn o deithiau a 146.89 miliwn o nosweithiau. Cynyddodd gwariant 3.5% i £10,133 miliwn.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae'r ffigurau hyn ar gyfer hanner cyntaf 2017 yn galonogol tu hwnt ac rwy’n falch iawn bod ymweliadau dros nos o Brydain Fawr yn gweld adferiad a thwf – yn enwedig o edrych ar y darlun ledled Prydain Fawr lle gwelwyd gostyngiad. 

"Er bod amodau’r farchnad yn heriol rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i dyfu’r diwydiant o 10% erbyn 2020, gyda’r diwydiant mewn sefyllfa gref ac yn teimlo’n hyderus iawn wrth i ni fynd i mewn i’r Hydref.

“Ar ôl ein hymgyrch lwyddiannus yn ystod yr haf lle buom yn targedu Llundain a De-ddwyrain Lloegr, bydd ymgyrch yr hydref yn dechrau'r wythnos nesa' ac yn ysbrydoli ymwelwyr newydd, a fydd yn dod â budd mawr i fusnesau, i ystyried Cymru yn gyrchfan lle gallan nhw dreulio penwythnos bendigedig yn ystod yr hydref.”

Mae ymgyrch integredig Croeso Cymru ar gyfer yr hydref yn cynnwys cyfuniad o hysbysebu ar y teledu, hysbysebu drwy'r cyfryngau digidol, partneriaethau gyda'r wasg, a hysbysebu helaeth y tu allan i Gymru yng ngorsaf Paddington. Bydd yr ymgyrch yn rhoi llwyfan i'r llu o bethau sydd i'w gweld a'u gwneud yma, gan roi pwyslais ar fwyd a diod o Gymru a hyrwyddo thema'r Flwyddyn Chwedlau am y tro olaf ymhlith defnyddwyr wrth i'r flwyddyn dynnu tua'i therfyn.