Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Atodiad

Roedd yr Asesiad Effaith Integredig gwreiddiol (2023) yn ymrwymo i gasglu data demograffig gan unigolion sy'n derbyn cymorth SMART FIS, yn benodol yn cwmpasu saith nodwedd warchodedig: rhyw, rhywedd, oedran, anabledd, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, a chrefydd neu gred, ac i gasglu gwybodaeth ddemograffig gan yr holl unigolion sy'n rhan o bob prosiect SMART FIS yn hytrach na gan y prif ymgeisydd yn unig. 

Ers cyhoeddi'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb, mae penderfyniadau gweithredu a digidol pellach wedi'u gwneud sy'n effeithio ar ddichonoldeb gweithredu'r dull hwn fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae'r atodiad hwn yn nodi'r sefyllfa wedi'i diweddaru, y rhesymeg dros y dull diwygiedig, a'r lliniariadau sydd ar waith.

O dan y dull diwygiedig, bydd data demograffig yn cael ei gasglu yn unol â Busnes Cymru, sy'n dal pum nodwedd warchodedig: rhyw, rhywedd, oedran, ethnigrwydd ac anabledd.

Mae SMART FIS yn gweithredu fel rhan o ecosystem gwasanaeth ehangach Busnes Cymru. Er mwyn sicrhau profiad effeithlon a chyson i gleientiaid, bydd data demograffig yn cael ei gasglu drwy system gofrestru Busnes Cymru a rennir ar blatfform ar-lein diogel. Mae alinio â'r system hon yn darparu: 

  • taith gydlynol ac unedig i gwsmeriaid,
  • llai o ddyblygu a baich gweinyddol i gleientiaid,
  • prosesau mewnol symlach ac effeithlon, a
  • monitro cyson ar draws rhaglenni Busnes Cymru.

Bydd y data demograffig a gesglir drwy'r platfform ar-lein yn cael ei ddefnyddio i fonitro cyfranogiad yn SMART FIS ac i nodi unrhyw anghydraddoldebau posibl mewn mynediad neu ddefnydd gan wahanol grwpiau. Er bod y set ddata yn fwy cyfyngedig nag a gynlluniwyd yn wreiddiol, bydd yn dal i helpu i nodi unrhyw arwyddion o fynediad neu ymgysylltu anghyfartal. Pan fydd bylchau neu bryderon yn dod i'r amlwg, bydd y rhain yn cael eu harchwilio ymhellach trwy brosesau monitro a llywodraethu presennol.