Neidio i'r prif gynnwy

"Mae Cymru'n barod i drafod busnes" – dyna yw'r neges y bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ei danfon i Ogledd America heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o ymgyrch i roi hwb pellach i broffil Cymru yn economi fwyaf y byd, bydd y Prif Weinidog yn ymweld am y tro cyntaf ag Atlanta, Cincinnati a Chicago, lle bydd yn cwrdd â gwleidyddion blaenllaw ac arweinwyr allweddol byd busnes.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn annerch Cyngor Chicago ar Faterion Byd-eang ynghylch dyfodol Cymru wedi'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r ymweliad pum niwrnod yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddenu mewnfuddsoddiad i Gymru - cynlluniau a fydd yn cael eu cyflymu fel rhan o ymateb cydgysylltiedig i Brexit.

Mae Unol Daleithiau America yn un o bartneriaid masnachu pwysicaf Cymru. Mae dros 250 o gwmnïau o Ogledd America yn gweithredu o leoliadau yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys GE Aviation, Ford a General Dynamics, ac mae llawer o fusnesau o Gymru'n buddsoddi a masnachu yng Ngogledd America.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith o swyddfeydd masnachu a buddsoddi yn yr Unol Daleithiau, wedi'u lleoli yn Washington DC, Dinas Efrog Newydd, San Francisco, Atlanta a Chicago.

Mae'r ymweliad yn dilyn y blynyddoedd gorau erioed ar gyfer mewnfuddsoddi yng Nghymru.

Cyn yr ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi cael llwyddiant ysgubol wrth ddenu busnesau byd-eang i Gymru - a chreu swyddi o safon. Gyda mewnfuddsoddi yn uwch nag y bu am 30 mlynedd, mae ein hymdrechion i ddenu busnesau a buddsoddiadau wedi arwain at greu rhagor o swyddi, a swyddi gwell, yma yng Nghymru.

"Mae cyhoeddiadau gan Aston Martin, MotoNovo, TVR, Essentra, EE a BT wedi dangos bod ein henw da fel gwlad wych i leoli busnes ynddi a masnachu ohoni yn mynd o nerth i nerth. Ond mae angen inni wneud mwy i sicrhau rhagor, nid llai, o fuddsoddi yn y dyfodol. Fwy nag erioed, mae angen inni fynd ati'n rhagweithiol i hybu Cymru ar lwyfan rhyngwladol, gan atgoffa'r byd fod popeth sydd wedi gwneud Cymru'n wych yn parhau i wneud Cymru'n wych.

"Yn dilyn Brexit, mae'n rhaid inni werthu Cymru i'r byd yn fwy nag erioed. Mae'n rhaid i Gymru atgoffa'r byd ein bod yn barod i drafod busnes. Dyna'n union y bydda i'n ei wneud yr wythnos hon yn yr Unol Daleithiau."