Neidio i'r prif gynnwy

"Bydd Cymru’n parhau i groesawu myfyrwyr tramor ar ôl Brexit, ac fe fydd Llywodraeth Cymru’n pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad ydynt yn dioddef yn sgil cynlluniau i gyfyngu ar fewnfudo."

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Prif Weinidog yn dweud:

“Gadewch i mi ddweud yn glir iawn bod croeso i fyfyrwyr tramor yng Nghymru, y rhai sydd eisoes gyda ni, a’r rhai sy’n ystyried dod yma i astudio.

“Fe wnaeth Llywodraeth ddiwethaf y Deyrnas Unedig gamgymeriad ofnadwy wrth edrych ar fisâu myfyrwyr. Roedd myfyrwyr tramor yn darged rhwydd yn yr ymgais i gyflawni addewid amhosib ynghylch mewnfudo.

“Yn anffodus, yn hytrach nag ailystyried hyn, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth newydd yn barod i ddilyn y trywydd hwn ymhellach. O ganlyniad, mae llai o fyfyrwyr tramor yn gwneud cais i astudio yn y Deyrnas Unedig. Nid yn unig oherwydd cyfyngiadau’r cyfreithiau newydd, ond hefyd oherwydd y syniad niweidiol nad oes croeso yma bellach.

"Felly, rydyn ni’n dweud ein bod am i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd myfyrwyr rhyngwladol allan o’r targedau mewnfudo net. Byddwn yn parhau i bwyso am hyn.

“Ar ôl Brexit, bydd angen system addysg uwch sy’n caniatáu i sefydliadau barhau i gydweithio’n rhydd ar draws Ewrop a’r byd. System sy’n caniatáu i’n myfyrwyr deithio ac astudio mewn gwledydd eraill, ac sy’n sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn lle croesawgar i bobl dramor sy’n dod yma i ddysgu a gweithio.”

“Rhaid i’r cydweithio hwn barhau. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion i sicrhau bod y pontydd hyn yn cael eu cynnal a’u cryfhau dros y blynyddoedd i ddod.”

Yn ystod ei anerchiad, bydd y Prif Weinidog hefyd yn gosod saith prif amcan Llywodraeth Cymru ar gyfer trafodaethau Llywodraeth y DU a Chomisiwn yr UE, sef:

  • Gwarantu statws fisa a dinasyddiaeth pobl o'r UE sy'n gweithio mewn prifysgolion yn y DU.
  • Cytuno ar drefniadau cyfatebol ynghylch ffioedd dysgu myfyrwyr, fel bod myfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn yr UE yn talu lefelau lleol o ffioedd myfyrwyr, a myfyrwyr yr UE sy'n astudio yng Nghymru'n cael eu trin fel myfyrwyr y DU at bwrpas ffioedd a chostau astudio.
  • Cyfranogi yn y cynllun fisa gwaith ar ôl astudio sy'n cael ei brofi ar hyn o bryd mewn pedair prifysgol yn Lloegr.
  • Cynnal lefelau ariannu datblygu rhanbarthol yng Nghymru drwy addasiadau priodol i'r grant bloc.
  • Parhau i fod yn rhan o Horizon 2020 a chynlluniau ymchwil eraill dan arweiniad yr UE.
  • Cymryd rhan yng nghynllun cyfnewid staff a myfyrwyr ERASMUS+.
  • Mwy o symudedd staff a myfyrwyr sy'n astudio ac yn gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru.