Neidio i'r prif gynnwy

Mae coedwigoedd Cymru yn barod i groesawu 148 o gystadleuwyr Rali Cymru GB Dayinsure (27-30 Hydref). Dyma fydd rownd gynderfynol ddramatig Pencampwriaeth Rali'r Byd yr FIA eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r digwyddiad hwn wedi tyfu i fod yn un o'r ffefrynnau yn y galendr digwyddiadau, ac mae'n un o'r digwyddiadau olaf i gael ei gynnal yn ystod Blwyddyn Antur Cymru 2016.  Mae'n cael ei gynnal yn ystod yr un wythnos y mae gogledd Cymru wedi cael ei restru fel un o'r deg lle gorau yn y byd i ymweld ag e yn 2017 yn y llyfr Lonely Planet Best in Travel 2017. 
Mae hefyd yn adlewyrchu'r 'Blwyddyn Antur' yng Nghymru eleni drwy gynnig y profion cyflymder hiraf a mwyaf heriol ers i'r rali symud i'w chanolfan newydd yn y gogledd yn 2013. Mae'r llwybr ralio yn cynnwys 22 o gymalau arbennig, sef cyfanswm o 206 o filltiroedd cystadleuol. I ychwanegu at lefel yr anhawster, bydd nifer o'r rhain yn cael eu taclo i'r cyfeiriad croes am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth a chaiff pob un ei gynnal yn erbyn y cloc ar gymysgedd heriol o lwybrau coedwig graean traddodiadol a ffyrdd parcdir.
Bydd y digwyddiad yn dechrau yn y seremoni agoriadol ym Mharc Eirias. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yn bresennol ar gyfer y dechrau swyddogol a dywedodd: 
"Mae Rali Cymru GB eleni yn addo bod yn ddigwyddiad anhygoel arall ac wrth i Flwyddyn Antur 2016 ddod i ben, mae'n enghraifft wych o'r ystod eang o anturiaethau y gellir eu cael yma yng Nghymru.  Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiad 2016 ac at adeiladu ar brofiadau'r blynyddoedd diwethaf sydd wedi bod yn llwyddiant mawr ymysg y cefnogwyr a'r cystadleuwyr. Mae hefyd wedi rhoi hwb enfawr i economi'r gogledd a'r canolbarth.
"Mae gan Gymru rai o gymalau ralio gorau'r byd a bydd golygfeydd a thirluniau godidog y gogledd yn berffaith ar gyfer y Rali Cymru GB."

Bydd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn llongyfarch yr enillydd yn Llandudno nos Sul. Mae'r Seremoni Agoriadol ym Mae Colwyn a'r Seremoni ar y llinell derfyn yn Llandudno yn ddigwyddiadau am ddim. I'r bobl hynny sydd yn y canolbarth, mae'r Drenewydd yn cynnig cyfle gwych i weld y ceir rali yn agos, yng nghanol y dre, amser cinio ddydd Gwener.
Dywedodd Ben Taylor, Rheolwr Gyfarwyddwr Rali Cymru GB Dayinsure:
"Mae'r cyffro'n cynyddu.  Mae gennym 22 o'r cymalau gorau yn y byd, rhestr benigamp o gystadleuwyr sy'n cynnwys gyrwyr gorau'r byd ac rydym yn disgwyl y bydd tyrfa enfawr."Yn well fyth, mae gennym obeithion mawr am ganlyniad cryf i Brydain, ar ôl perfformiadau trawiadol Kris Meeke y tymor hwn. Mae popeth yn arwain at bencampwriaeth byd na allwch ei fethu."
Fel gydag unrhyw ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol, bydd Rali Cymru GB Dayinsure i'w weld ar y teledu yn fyw ac ar ôl cael ei ôl-gynhyrchu.Bydd Channel 5, a'r darlledwr lloeren, BT Sport, yn dangos sioe gylchgrawn cyn y digwyddiad, rhaglen uchafbwyntiau bob dydd yn ogystal â lluniau byw o'r Cymal Pŵer olaf o Lyn Brenig dydd Sul. Bydd Channel 5 hefyd yn darlledu sioe uchafbwyntiau am 7pm nos Lun. Gall gwylwyr hefyd wylio'r rhaglen Ralio+ ar S4C.