Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod ymweliad â Stuttgart yr wythnos hon, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a Gweinidog Materion Economaidd Baden-Württemberg, Dr Nicole Hoffmeister-Kraut wedi llofnodi datganiad cydweithio ar y cyd i hybu cysylltiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol ac ecolegol ymhellach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad ar y cyd yn bwriadu ehangu cydweithio dwyochrog rhwng Cymru a Baden-Württemberg mewn meysydd megis masnach ac entrepreneuriaeth, gwyddoniaeth ac ymchwil, addysg ac ieuenctid, diwylliant a chymdeithas sifil, yn ogystal â diogelu'r amgylchedd a'r hinsawdd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae llofnodi datganiad ar y cyd â Baden-Württemberg yn bwysig i gadarnhau ein perthynas bwysig â'r rhanbarth blaenoriaeth hwn i Gymru. Fel un o'n partneriaid masnachu mwyaf, mae hyn yn gyfle inni sicrhau cydweithio parhaus a chryfach.

"Mae'r Almaen yn bartner cydweithredu hynod bwysig i Gymru gydag amcangyfrif bod 90 o gwmnïau sy'n eiddo i'r Almaen â phresenoldeb yng Nghymru, ac yn cyflogi ychydig o dan 12,000 o bobl. Mae tua 20 o'r sefydliadau hyn yn eiddo i riant-gwmnïau o Baden-Württemberg felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfleoedd y bydd ein cysylltiad ar draws meysydd gan gynnwys masnach, ymchwil ac addysg yn eu cynnig."

Cytunodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a'r Prif Weinidog Kretschmann, i gryfhau’r trefniadau cydweithio yn 2022, ac mae'r Datganiad Cydweithio heddiw yn adeiladu ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan y ddwy wlad ym 1990.

Dywedodd y Gweinidog-Lywydd, Winfried Kretschmann:

"Mae'r Deyrnas Unedig yn bartner pwysig iawn i Baden-Württemberg, a bydd yn parhau i fod felly. Mae'n bwysig goresgyn yr heriau i fusnes a gwyddoniaeth ar ôl Brexit gyda'n gilydd.

"O ystyried yr argyfyngau a'r rhyfeloedd presennol yn y byd, rhaid i'r UE a'r gwladwriaethau democrataidd nawr gydweithio'n agosach, a rhaid i bartneriaid gwerthfawr fel yr Almaen a'r Deyrnas Unedig, Baden-Württemberg a Chymru symud hyd yn oed yn agosach at ei gilydd."

Dywedodd Dr Hoffmeister-Kraut, y Gweinidog Materion Economaidd, Llafur a Thwristiaeth:

"Rwy'n awyddus iawn i arwyddo cytundeb ar gydweithio pellach rhwng Cymru a Baden-Württemberg. Mae Cymru a'r Deyrnas Unedig yn bartneriaid masnach ac economaidd pwysig i ni."

Mewn cyfarfod un-i-un, trafododd y Gweinidog Dr Hoffmeister-Kraut arloesi gyda'i chymar yng Nghymru a dywedodd:

"Mae trawsnewid a newid strwythurol yn peri heriau mawr i gwmnïau yn y ddwy wlad. Cytunodd y Gweinidog Gething a minnau mai arloesi yw'r allwedd i economi gref a chadarn. Dyna pam yr ydym eisiau ac angen cryfhau pŵer arloesi drwy rwydweithiau arloesi rhanbarthol gweithredol a pharhau i dyfu mewn cynghreiriau rhyngwladol gyda phartneriaid dibynadwy. "

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Cymru yn wlad sydd o hyd yn edrych tuag allan, ac yn edrych am gyfleoedd masnachu yn fyd-eang. Rydym am gael y presenoldeb cryfaf posibl ar lwyfan y byd a does dim lle gwell na Baden-Württemberg i adeiladu ar ein perthnasoedd byd-eang, a'u cryfhau.

"Byddwn yn parhau i wneud y gorau o'r cysylltiadau lluosog rhwng ein llywodraethau, ein sefydliadau, ein pobl a’n diwylliant – a sicrhau bod ein cysylltiadau hanesyddol hir yn parhau ymhell i'r dyfodol."