Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw yw dyddiad pen-blwydd Roald Dahl ac mae hefyd yn Ddiwrnod Roald Dahl ‒ diwrnod i ddathlu storïwr gorau’r byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru wedi bod wrthi gydol y flwyddyn yn cynnal gweithgareddau a digwyddiadau i nodi canmlwyddiant ei eni.

Bydd Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi a’r Seilwaith, yn nodi’r diwrnod mewn digwyddiad swyddogol i ddadorchuddio mainc ar ffurf Crocodeil Enfawr ym Mae Caerdydd. Daeth rhan o’r cyllid ar gyfer y prosiect o’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol a sefydlwyd gan Croeso Cymru. 

Arweiniwyd y prosiect hwn gan Gyngor Caerdydd, a rhoddwyd £31,000 ar ei gyfer gan y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol er mwyn creu teyrnged barhaol y gall plant a theuluoedd ei mwynhau am flynyddoedd i ddod, ac ymdeimlo â hwyl a direidi’r awdur drwy’r cysylltiad hwn ag un o’i straeon byrion mwyaf adnabyddus ,‘The Enormous Crocodile’. Yn ymuno â’r Ysgrifennydd Cabinet fydd plant o Ysgol Gynradd Albert a fydd yn cymryd rhan yn Dahlicious Dress Up Day, yn ogystal â gwesteion annisgwyl o gast Dinas yr Annisgwyl a fydd yn synnu ac yn syfrdanu Caerdydd ar 17 a 18 Medi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet: 

“Roedd Roald Dahl yn feistr ar yr annisgwyl ‒ gyda’i ddychymyg byw ac ysbrydoledig, llwyddodd storïwr gorau’r byd i greu llu o gymeriadau rhyfeddol. Mae Roald Dahl yn berson rhyngwladol yng ngwir ystyr y gair ‒ roedd o dras Norwyaidd, fe’i ganed yng Nghymru, daeth ei lwyddiant cyntaf yn UDA; a daeth, yn y pen draw, yn eicon ledled y byd. Serch hynny, nid yw pobl yn deall yn syth mai un o Gymru oedd e’ ‒ ac mae hynny’n rhywbeth rydyn ni am weiddi’n groch yn ei gylch eleni!

“Mae dathliadau canmlwyddiant Roald Dahl 100 yn cyd-daro â’r Flwyddyn Antur yng Nghymru ac mae hynny’n gwbl briodol o ystyried bod yr awdur yn un a oedd yn ysbrydoli antur. Eleni, rydyn ni wedi bod yn cofio ‒ ac yn dysgu o’r newydd, sut roedd Roald Dahl yn defnyddio tirweddau, straeon a threftadaeth y wlad lle’i ganed yn ysbrydoliaeth ar gyfer storïau i blant ac oedolion sy’n mynd â’r darllenydd ar deithiau bythgofiadwy.  

“Pleser o’r mwyaf heddiw yw dadorchuddio’r atyniad arbennig hwn a fydd yma ym Mae Caerdydd am genedlaethau i ddod i’n hatgoffa o gysylltiad Roald Dahl â Chaerdydd a Chymru. Mae’n gwbl gydnaws â’r ymdeimlad o hwyl , syndod a direidi a oedd mor nodweddiadol o’r awdur. Rydyn ni’n edrych ’mlaen bellach at ragor o ddigwyddiadau annisgwyl yn Ninas yr Annisgwyl y penwythnos nesa’.

“Mae’n rhaglen ddathliadau wedi rhoi cyfle i bobl ym mhob cwr o Gymru ddod i adnabod Dahl yn well ac i ddathlu drwy gyfrwng caneuon, cerddoriaeth, dawns ac, wrth gwrs ‒ darllen ac ysgrifennu.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cydweithrediaethau a Mentrau Cymdeithasol: 

“Dw i’n siŵr y bydd plant yn cael llawer iawn o hwyl yn dringo dros y crocodeil hwn ond mae hefyd yn lle gwych i eistedd i fwynhau’r olygfa. Rydyn ni fel Cyngor yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r dathliadau sy’n cael eu cynnal eleni i nodi canmlwyddiant geni Roald Dahl. Gellid dadlau mai ef yw’r unigolyn enwoca’ i gael ei eni yn y ddinas. Dim ond tafliad carreg o’r Eglwys Norwyaidd mae'r atyniad newydd hwn ac mae’n rhywbeth arall gweledol i’n hatgoffa am gysylltiad yr awdur â Chaerdydd. Ond dw i am rybuddio plant i beidio mynd yn rhy agos i ddannedd miniog y Crocodeil Enfawr!”  

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: 

“Mae gwaith Roald Dahl yn apelio at bob math o bobl o bob oed ym mhob cwr o’r byd ‒ mae’n achub cam y gwannaf ac yn dathlu’r anghonfensiynol. Mae ei lyfrau’n gwneud inni gredu bod unrhyw beth yn bosibl, pwy bynnag ydycn ni a ble bynnag cawson ni ein geni.

Rydyn ni’n credu’n angerddol yn Llenyddiaeth Cymru bod llenyddiaeth yn rhywbeth i bawb a’i bod i’w gweld ym mhobman. O Ynys Môn i Ynys-y-bŵl, o Gaernarfon i Gaerffili, o’r Drenewydd i Drefdraeth, mae’r dathliad hwn wedi bod yn ddathliad i Gymru gyfan yng ngwir ystyr y gair, a bydd yn parhau felly. Rydyn ni wedi ailgyflwyno Roald Dahl i bobl o bob oed mewn ffordd sy’n gadael iddyn nhw ddefnyddio’u gallu creadigol a’u dychymyg eu hunain wrth iddyn nhw ymgolli yn ei waith. Mae darllen yn un o’r pethau mwyaf hudol gallwch chi ei wneud ‒ unwaith ichi agor llyfr, byddwch yn cyrraedd byd newydd anturus, llawn dychymyg. Mae Roald Dahl yn eiddo i bob un ohonon ni ‒ a byddwch chi’n dod ar ei draws ym mhobman eleni.”