Bydd data personol pobl yng Nghymru yn cael eu diogelu yn well ar ôl i'r Senedd gymeradwyo rheoliadau i ddiddymu'r gofrestr etholiadol agored ar 10 Mawrth.
Bydd Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cael Gwared ar y Gofrestr Olygedig) (Cymru) 2026 yn rhoi diwedd ar yr arfer o werthu manylion pleidleiswyr i sefydliadau marchnata uniongyrchol a sefydliadau masnachol eraill.
Mae pobl ifanc a'r rhai sy'n cael eu hystyried yn agored i niwed ymhlith y rhai a fydd yn elwa fwyaf, gan y byddant yn cael eu diogelu yn well rhag cael eu targedu gan sefydliadau sy'n ceisio peri niwed.
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref, a hynny ar ôl etholiadau'r Senedd ym mis Mai, a byddant yn gymwys i'r gofrestr a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.
Mae'r newid hefyd yn galluogi'r cam nesaf o ran y gwaith diwygio democrataidd, gan nad oes modd cyflwyno system cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 nes bod y gofrestr agored wedi'i diddymu.
Bydd cofrestru yn awtomatig, sydd eisoes wedi'i dreialu'n llwyddiannus mewn pedwar awdurdod lleol yng Nghymru, yn ei gwneud hi'n haws i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn etholiadau, gan leihau'r baich cofrestru ar unigolion.
Gwnaeth y Senedd hefyd gymeradwyo diwygiadau ar wahân i foderneiddio rheolau etholiadau llywodraeth leol cyn etholiadau 2027. Mae'r rhain yn cynnwys eithrio gwariant sy'n gysylltiedig â diogelwch o derfynau cyllid ymgyrchu, a oedd yn un o argymhellion Sefydliad Jo Cox. Mae hyn yn dod ag etholiadau llywodraeth leol yn unol â'r rheolau presennol ar gyfer etholiadau'r Senedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
Dyma gam sylweddol ymlaen i ddemocratiaeth Cymru. Mae pleidleiswyr yn haeddu cael eu gwybodaeth wedi'i diogelu, nid ei gwerthu i'r rhai a allai wneud niwed iddyn nhw.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gymryd y cam hwn ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol, gan ddangos ein hymrwymiad i system etholiadol decach a mwy modern.
Drwy gael gwared ar y gofrestr agored, rydyn ni hefyd yn datgloi'r llwybr at gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gan ei gwneud hi'n haws i leisiau pawb yng Nghymru gael eu clywed mewn etholiadau Cymreig.
