Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn rhybuddio Prif Weinidog y DU heddiw y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Mark Drakeford yn dweud wrth Theresa May bod dyletswydd foesol arni i sicrhau na fydd y DU yn cael ei rhwygo allan o'r UE heb gytundeb, gan roi ysgytwad difrifol i holl economi Cymru a bygwth swyddi a busnesau ym mhob cwr o'r wlad.  

Bydd Prif Weinidog newydd Cymru a'r Gweinidog Brexit newydd, Jeremy Miles, yn bresennol yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn Llundain heddiw, dan gadeiryddiaeth Theresa May.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Mark Drakeford:

“Byddai Brexit heb gytundeb yn fethiant trychinebus ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond mae’n edrych yn debyg y bydd y llanast llwyr sydd wedi codi o amgylch cytundeb Theresa May yn ein gwthio tuag at sefyllfa a fydd yn amharu'n ddifrifol ar bawb, gan beryglu swyddi a bywoliaethau pobl.

“Rydyn ni eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb, gan iddi ddod yn gynyddol amlwg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn methu negodi cytundeb derbyniol. Byddwn yn dwysau ein gwaith nawr i ddatblygu cynlluniau wrth gefn.

“Yng nghyfarfod cyntaf fy Nghabinet yn gynharach yr wythnos hon, gofynnais i bob un o'm Gweinidogion drafod mwy gyda'n partneriaid yng Nghymru wrth i ni symud ymlaen i'r Flwyddyn Newydd. Bydd hyn yn ein helpu i gynllunio er mwyn paratoi cymaint â phosib rhag ofn na fydd cytundeb, gan nodi meysydd newydd i fuddsoddi er mwyn helpu gyda’r gwaith paratoi.

“Does dim modd i Gymru baratoi wrth ei hun. Rydyn ni wedi dweud yn glir bod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithio gyda ni os ydyn ni am sicrhau'r cytundeb gorau posib i'r Deyrnas Unedig yn gyfan."

Ychwanegodd Jeremy Miles:

"Mae'n amhosibl amddiffyn sefyllfa bresennol trafodaethau Brexit Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth y cyhoedd. Does neb wedi pleidleisio dros hyn. Rydw i am sicrhau pobl Cymru ein bod ni'n parhau i ganolbwyntio ar eu buddiannau nhw wrth drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

"Mae'r amser wedi dod i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig dderbyn bod rhaid iddi newid ei ffordd o weithio a sicrhau'r canlyniad gorau posib i bob rhan o'r Deyrnas Unedig, yn hytrach na pharhau i wthio am gytundeb sy'n anwybyddu realiti'r sefyllfa'n llwyr."