Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad y Prif Weinidog ar yr ymosodiad ym Manceinion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones 

"Mae Cymru’n sefyll yn gadarn gyda phobl Manceinion a’r holl deuluoedd sy’n dioddef heddiw. Roedd y weithred hon yn un arbennig o greulon gan ei bod wedi targedu pobl ifanc yn eu harddegau oedd yn dod allan o gyngerdd. Mae’n anodd dychmygu gweithred fwy erchyll a disynnwyr.      

“Hoffwn dalu teyrnged i’r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y GIG ym Manceinion a’r holl bobl eraill yn y ddinas a agorodd eu drysau ac estyn cymorth pan oedd ei angen. Rydyn ni eisoes wedi clywed llu o hanesion am ddewrder, caredigrwydd a chadernid, ac mae hynny’n dangos, heb unrhyw amheuaeth, na fydd pobl Manceinion na phobl y wlad hon yn ildio i derfysgaeth. Bydd y gobaith, yr ysbryd a’r undod hwnnw bob amser yn trechu casineb ac yn gwrthsefyll y rhai sy’n ceisio creu rhaniadau rhyngom.

“Mae dinas Manceinion yn ddinas adnabyddus ac yn agos at galonnau llawer iawn o Gymry, yn enwedig pobl y Gogledd. Mae wedi profi gweithredoedd terfysgol o’r blaen ac nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â’i chadernid a’i chryfder.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ac at Faer Manceinion, Andy Burnham, yn mynegi ein dicter ynghylch yr ymosodiadau ac yn datgan ein bod yn sefyll yn gadarn gyda phobl Manceinion.

“Cefais ddiweddariad Diogelwch Cenedlaethol gan Swyddfa’r Cabinet dros y ffôn y bore ’ma, a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Y flaenoriaeth nawr fydd cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar y teuluoedd, a rhoi lle ac amser i’r heddlu allu cynnal eu hymchwiliadau brys yn ddirwystr.

“Ddylen ni byth dderbyn terfysgaeth - boed yn digwydd gartref neu dramor. Allwn ni byth ystyried ymosodiadau fel hyn yn rhywbeth normal. Dylem barhau i’w disgrifio fel gweithredoedd annerbyniol, creulon a ffiaidd. Y neges o’r Siambr hon yw na fyddwn yn gadael i hyn ein llorio, na fyddwn yn encilio ac na fyddwn yn newid ein ffordd o fyw. Dyna’r deyrnged orau y gallwn ei chynnig i bobl Manceinion heddiw.”