Mae Cymru yn paratoi i groesawu Grand Départ y Tour de France yn 2027, gyda buddsoddiad o £4.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i roi hwb i dwristiaeth feicio, denu ymwelwyr a chefnogi economïau lleol.
- Bydd buddsoddiad o £4.5 miliwn yn helpu i roi hwb i dwristiaeth feicio ledled Cymru cyn Grand Départ y Tour de France yn 2027, gan ddenu mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu etifeddiaeth barhaol i feicio.
- Mae 54 o brosiectau wedi cael cyfran o £3.19 miliwn i wella cyfleusterau a seilwaith beicio, gan gynnwys hybiau beicio, cynlluniau llogi beiciau, llwybrau a mannau gwefru ar gyfer e-feiciau.
- Bydd Cronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod gwerth £1.3 miliwn yn helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fod yn fwy croesawgar i feicwyr a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mwy o ymwelwyr.
Mae'r buddsoddiad yn cynnwys £3.19 miliwn ar gyfer 54 o brosiectau llwyddiannus drwy raglen Croeso i Feicwyr. Bydd y prosiectau'n gwella cyfleusterau a seilwaith beicio, gan helpu ymwelwyr i ddarganfod llwybrau newydd, ymweld ag atyniadau lleol a manteisio i'r eithaf ar yr hyn sydd gan gymunedau Cymru i'w gynnig.
Bydd £1.3 miliwn pellach yn cefnogi Cronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod, gan helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fod yn fwy croesawgar i feicwyr.
O gysylltiadau beicio ar arfordir Môn i ddringfeydd heriol y de, nod y buddsoddiad yw sicrhau y bydd manteision y Tour de France yn para ymhell ar ôl i'r ras ddod i ben.
Ymhlith y prosiectau sy’n elwa:
Yng Ngogledd Cymru, bydd £100,000 yn cefnogi Llwybr Beicio Arfordirol Porth Môn yng Nghaergybi, gan wella cysylltiadau beicio o un o brif byrth Cymru. Bydd y prosiect, sy’n cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Ynys Môn, yn ei gwneud yn haws i drigolion ac ymwelwyr archwilio arfordir, cymunedau ac atyniadau’r ynys ar gefn beic, gan greu mwy o gyfleoedd i fusnesau twristiaeth lleol.
Yng Nghanolbarth Cymru, bydd £100,000 yn creu rhwydwaith o hybiau beicio yn y Trallwng, y Drenewydd, Machynlleth, Llandrindod a Llanfyllin. Bydd prosiect Hybiau Beicio Gogledd Powys, a gyflwynir gan Gyngor Sir Powys, yn darparu parcio beiciau, gorsafoedd atgyweirio, cyfleusterau golchi beiciau, mannau gwefru i e-feiciau a gwybodaeth i ymwelwyr. Bydd yr hybiau yn helpu beicwyr i ddarganfod atyniadau cyfagos, gan gynnwys Castell Powis a’r Amgueddfa Feicio Genedlaethol, ac yn annog ymwelwyr i archwilio cymunedau lleol a gwario ynddynt.
Yn Ne Cymru, bydd beicwyr yn gallu dilyn olion y Tour de France drwy Gylchdaith Brenin y Mynyddoedd. Gyda chefnogaeth o £64,800 drwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r prosiect yn cael ei ysbrydoli gan gystadleuaeth ddringo enwog y Tour de France. Bydd marcwyr dwyieithog yn cael eu gosod ar nifer o ddringfeydd heriol, gan gynnwys Epynt, Rhigos, Penrhys a Maerdy. Bydd y gylchdaith yn annog selogion beicio i herio’u hunain ar y dringfeydd hyn, gan roi mwy o resymau i ymwelwyr aros yn hirach ac archwilio’r cymunedau cyfagos.
Bydd busnesau a sefydliadau cymunedol hefyd yn gallu paratoi ar gyfer croesawu mwy o feicwyr drwy Gronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod gwerth £1.3 miliwn.
Bydd y gronfa, a gaiff ei darparu drwy awdurdodau lleol, yn helpu caffis, tafarndai, bwytai, darparwyr llety, atyniadau i ymwelwyr a sefydliadau cymunedol i wneud gwelliannau megis darparu parcio beiciau, mannau gwefru i e-feiciau a chyfleusterau atgyweirio.
Bydd y cymorth yn helpu busnesau i groesawu mwy o feicwyr a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Grand Départ y Tour de France. Bydd manylion am y broses ymgeisio ar gael drwy awdurdodau lleol maes o law.
Daw’r buddsoddiad wrth i Gymru baratoi i groesawu Grand Départ y Tour de France yn 2027. Bydd Croeso Cymru hefyd yn nodi 2027 fel Blwyddyn Beicio.
Bydd ymgyrch flaenllaw, offeryn mapio rhyngweithiol arloesol a fydd yn dod â llwybrau beicio a chyrchfannau o safon ryngwladol ynghyd, ynghyd â phrosiectau sy’n gweithio gyda busnesau a chymunedau, yn helpu i arddangos Cymru fel cyrchfan beicio ac yn annog ymwelwyr i weld mwy o’r wlad ar ddwy olwyn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
Mae Grand Départ y Tour de France yn gyfle unigryw i Gymru.
Wrth i ni baratoi i groesawu ras feicio fwyaf y byd, rydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau a phrofiadau a fydd yn annog mwy o bobl i archwilio Cymru ar ddwy olwyn, gan helpu busnesau lleol i elwa ar dwf twristiaeth feicio.
O lwybrau arfordirol a hybiau beicio cymunedol i rai o ddringfeydd mwyaf heriol Cymru, bydd y prosiectau hyn yn helpu i droi cyffro’r Tour yn gyfleoedd parhaol i gymunedau ledled y wlad.
Rydym am i’r manteision bara ymhell ar ôl i’r ras ddod i ben, gan greu etifeddiaeth barhaol i dwristiaeth, chwaraeon a’r economi yng Nghymru.
