Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn llofnodwr cynghrair llywodraethau rhanbarthol Ewropeaidd, gan hyrwyddo twf, meithrin cydweithredu a datblygu cadwyni gwerth cryf yn y diwydiant lled-ddargludyddion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, ar ran Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi llofnodi datganiad i ymuno â Chynghrair Rhanbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop (ESRA), gan ddod yn un o’r 19 rhanbarth a sefydlodd y Gynghrair.

Bydd yr ESRA yn gweithredu fel llwyfan rhanbarthol yn ogystal â phartner i'r Undeb Ewropeaidd a bydd yn hyrwyddo cystadleurwydd y diwydiant yn fyd-eang. Mae gweithgareddau'r ESRA yn canolbwyntio ar:

  • ymchwil ac arloesi, datblygu technolegau a chymwysiadau newydd
  • sgiliau a thalent, hyrwyddo rhaglenni addysg a hyfforddiant
  • datblygu clwstwr, hyrwyddo clystyrau rhanbarthol a phartneriaethau trawsranbarthol

Wedi llofnodi'r Datganiad, dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn llofnodwr Cynghrair Rhanbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop.

"Mae Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol ar gyfer y sector lled-ddargludyddion yn ne-ddwyrain Cymru ac mae amcanion ESRA yn cyd-fynd â'n Rhaglen Lywodraethu a'n Strategaeth Arloesi, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

"Bydd ymuno â'r ESRA yn darparu cyfleoedd newydd i gwmnïau o Gymru ymwreiddio mewn cadwyni cyflenwi Ewropeaidd, cefnogi arloesedd, cydweithredu ac yn y pen draw greu sector lled-ddargludyddion mwy gwydn."

Wrth arwyddo ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Cynrychiolydd Cymru ar Ewrop, Derek Vaughan:

"Ewrop yw partner masnachu agosaf a phwysicaf Cymru o hyd, a bydd ein haelodaeth newydd o Gynghrair Ranbarthol Lled-ddargludyddion Ewrop yn cefnogi ein Strategaeth Ryngwladol wrth inni gynnal perthynas agos a chadarnhaol gyda'r Undeb Ewropeaidd."

Cynhaliwyd y seremoni arwyddo, a gynhaliwyd gan Brif Weinidog Talaith Rydd Sacsoni, ym Mhwyllgor Rhanbarthau Ewrop ym Mrwsel ar 7 Medi.