Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

Ymunodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â’r actor o Hollywood Rhys Ifans a grwpiau cymunedol o bob rhan o'r Gogledd y penwythnos diwethaf i ddathlu ailddatblygu Theatr Clwyd, theatr gynhyrchu fwyaf Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r trawsnewidiad gwerth £50 miliwn, a ddyluniwyd gan y penseiri byd-enwog Haworth Tompkins, yn cynnwys £26.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae'n un o'r buddsoddiadau diweddar mwyaf sylweddol mewn seilwaith diwylliannol yng Nghymru.

Amcangyfrifir y bydd effaith economaidd yr ailddatblygu ar gyfer y Gogledd-ddwyrain yn cyrraedd dros £20 miliwn y flwyddyn, gan bron i dreblu cyfraniad economaidd blaenorol y theatr a chreu o leiaf 100 o swyddi parhaol ychwanegol.

Mae'r adeilad sydd newydd ei ailddatblygu, a arhosodd ar agor i raddau helaeth wrth i'r gwaith fynd rhagddo, yn gartref i ddwy theatr, stiwdio ddatblygu ar gyfer artistiaid proffesiynol, sinema, bar a bwyty newydd (gyda'r cogydd seren Michelin Bryn Williams), ystafell gelf ac iechyd a chanolfan ieuenctid. Bydd wedi'i gwblhau'n llawn erbyn diwedd mis Medi/Hydref eleni.

Roedd digwyddiad dathlu dan arweiniad y gymuned ddydd Sadwrn yn nodi cam cyntaf ailagor y theatr yn llawn, gydag aelodau o 300 o grwpiau lleol wedi'u gwahodd i fynd ar daith o amgylch y lleoliad wedi'i ailddatblygu a chymryd rhan mewn perfformiad arbennig.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant:

Rwy'n falch o fod wedi cyflawni'r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae Theatr Clwyd yn sefydliad diwylliannol ac yn lleoliad lle mae cenedlaethau o drigolion y Gogledd wedi profi perfformiadau cofiadwy ynddo.

Mae ein buddsoddiad wedi darparu cyfleuster o'r radd flaenaf ac wedi creu cyflogaeth gynaliadwy yn ogystal â chefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus, drwy roi cyfleoedd i brentisiaid.

Wrth wrando ar y grwpiau cymunedol a oedd yn bresennol heddiw, cefais fy atgoffa o'r rôl ganolog y mae'r theatr yn ei chwarae ym mywydau trigolion y Gogledd. Dyma'r lleoliad ar gyfer fy nghyflwyniad fy hun i theatr fyw, ac rwy'n edrych ymlaen at ddod â fy nheulu fy hun yma hefyd.

Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd:

Rydym yn hynod falch o'n gwaith yn Theatr Clwyd, o greu theatr o ansawdd uchel ac addysg gerddoriaeth, i'r partneriaethau atgyfeirio a'r gwaith cyflawni â ffocws gyda chymunedau ac ar eu cyfer. Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i ddathlu cam cyntaf ein hagoriad, ac i ddiolch i bartneriaid fel Llywodraeth Cymru. Mae llywodraethau yn ariannu'r celfyddydau a diwylliant yn hynod bwysig, ac mae hwn yn ddatganiad arwyddocaol bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwaith Theatr Clwyd ac effaith ein gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu gwariant o ddydd i ddydd ar dreftadaeth, y celfyddydau a diwylliant 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddiad mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl, gan gynnwys ailddatblygu Castell Caerffili ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam.