Neidio i'r prif gynnwy

Mae Capel Rhondda, man geni un o emynau mwyaf adnabyddus Cymru, Cwm Rhondda, bellach yn ddiogel yn nwylo'r gymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ôl cyfnod ansicr, mae’r hen gapel Bedyddwyr yn dechrau pennod newydd yn ei hanes, diolch i ymgyrch gan y gymuned i godi arian i brynu'r adeilad, law yn llaw â chefnogaeth drwy gynllun Perthyn, Llywodraeth Cymru.

Mae’r grŵp cymunedol, Capel Rhondda Cyf. wedi cymryd perchnogaeth o'r capel yn Nhrehopcyn, ger Pontypridd, ar ôl codi £72,600 trwy ymgyrch codi arian a ddenodd gefnogaeth leol a rhyngwladol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £10,000 drwy gynllun grant Perthyn i gefnogi camau nesaf y prosiect a helpu i ddod â gweledigaeth y gymuned yn fyw.

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, â'r capel heddiw i ddathlu'r pryniant, ddiwrnod ar ôl i Capel Rhondda Cyf dderbyn allweddi'r adeilad.

Yn ystod ymweliad yr Ysgrifennydd Cabinet, perfformiodd aelodau Côr Meibion Pontypridd Cwm Rhondda (‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ / ‘Bread of Heaven’) o fewn muriau’r capel lle cafodd ei chlywed gyntaf dros ganrif yn ôl. 

Mae'r ymweliad yn digwydd ar drothwy gêm gartref gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad y penwythnos hwn, pan fydd cefnogwyr yn y stadiwm genedlaethol yn codi eu lleisiau i ganu’r emyn, a hefyd ddiwrnod cyn Dydd Miwsig Cymru, dathliad cenedlaethol o gerddoriaeth Gymraeg.

Dywedodd Rhian Hopkins, un Gyfarwyddwyr Capel Rhondda Cyf:

Mae prynu Capel Rhondda yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd pobl yn dod at ei gilydd. Rydyn ni mor falch o'r hyn ydyn ni wedi ei gyflawni drwy ein hymgyrch codi arian cymunedol ac yn ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwyd, gan unigolion a sefydliadau o bell ac agos. Mae perchnogaeth gymunedol o'r capel nid yn unig yn symbol pwerus, ond mae'n sicrhau y bydd dyfodol Capel Rhondda yn cael ei siapio gan leisiau lleol, gan gadw gofod cymunedol pwysig ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn gan y grant Perthyn yn allweddol i'n helpu i gymryd y camau nesaf, gan ein galluogi i gynnal arolygon hanfodol a chynllunio'r atgyweiriadau angenrheidiol i allu ailagor drysau'r adeilad gwerthfawr hwn. Er ein bod yn cydnabod yr heriau niferus sydd o'n blaenau, o sicrhau cyllid ychwanegol sylweddol i wneud gwaith atgyweirio ac adfer helaeth, rydyn ni wedi ymrwymo i ymgynghori â phobl leol i greu lleoliad croesawgar i bawb, lle bydd ein treftadaeth yn cael ei drysori.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:

Roedd hi’n wych ymweld â Chapel Rhondda heddiw, mor fuan ar ôl I’r gymuned dderbyn yr allweddi, ac i ddathlu beth sydd wedi ei gyflawni. Roedd clywed y côr yn perfformio’r emyn yn ei man geni yn brofiad teimladwy.

Rwy'n falch o gefnogi'r prosiect hwn drwy’r grant Perthyn, gan helpu i ddiogelu adeilad o wir arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan greu hwb i'r gymuned gyfan, lle gellir hybu a defnyddio’r Gymraeg.

Mae’r cynllun grant Perthyn yn helpu cymunedau i gymryd y camau cyntaf ymarferol i droi prosiectau yn fentrau cymunedol gyda’r Gymraeg yn ganolog i’r gwaith. Mae’r mentrau hyn yn creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy a diogelu asedau cymunedol mewn cymunedau Cymraeg. Ers 2022, mae dros 70 o grantiau wedi cael eu dyrannu i gefnogi grwpiau i ddatblygu a sefydlu mentrau cydweithredol newydd. Yn dilyn ehangu'r cynllun grant i Gymru gyfan, Capel Rhondda yw'r prosiect cyntaf yng nghymoedd de Cymru i elwa ohono.