Bydd ardaloedd sydd â nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn cael cymorth ychwanegol i gryfhau'r iaith yn ein cymunedau, ar ôl i Weinidogion dderbyn argymhellion adroddiad.
Yn dilyn astudiaeth ddwy flynedd o hyd gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg o dan arweiniad Dr Simon Brooks, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sawl cynnig i ddiogelu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, y cynlluniau yn Eisteddfod yr Urdd heddiw, gan gadarnhau y bydd y llywodraeth yn gwneud y canlynol:
- rhoi cymorth i ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o siaradwyr Cymraeg i dargedu cymorth
- sicrhau bod trigolion yn yr ardaloedd hyn, ac ar draws Cymru, yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg
- darparu mwy o arweiniad ynghylch yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi
Mae argymhellion wedi'u derbyn ar draws sawl maes polisi gan gynnwys yr economi, tai, datblygu cymunedol ac addysg. Bydd y Llywodraeth yn cydlynu gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i drafod yr argymhellion a'u rhoi ar waith.
Dywedodd Mark Drakeford:
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac i bob cymuned ledled Cymru. Rwy'n ddiolchgar am waith caled y Comisiwn ar yr adroddiad hwn, ac rwy'n gobeithio, trwy dderbyn eu hargymhellion, y gallwn gryfhau'r Gymraeg yn ein holl gymunedau."
"Rydyn ni'n cytuno mewn egwyddor y dylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol, a byddwn nawr yn symud hyn ymlaen trwy weithio gyda phartneriaid i greu polisïau wedi'u teilwra sy'n ymateb i anghenion penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith."
