Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £17 miliwn ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi a dinasoedd ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r hwb ariannol yn cynyddu cyllideb Trawsnewid Trefi ar gyfer 2025-26 o £40 miliwn i £57 miliwn i gefnogi rhagor o brosiectau a all gyflawni ein huchelgeisiau adfywio.

Bydd y buddsoddiad hwn yn creu swyddi, yn rhoi hwb i weithgarwch economaidd ac yn rhoi bywyd newydd i’r stryd fawr a chanol trefi ledled y wlad.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, y cyllid wrth ymweld â safleoedd adfywio enghreifftiol yn Wrecsam.

Ar hyn o bryd mae canol Dinas Wrecsam yn elwa ar dros £10 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi, gyda'r gwaith naill ai wedi'i gyflawni neu'n agos at ei gwblhau.

Mae hyn yn cynnwys y Farchnad Cigyddion dan do sydd newydd ei hadnewyddu, a dderbyniodd £2.5 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gwelliannau wedi creu darpariaeth manwerthu annibynnol o ansawdd, cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr a gwella bywiogrwydd canol y ddinas.

Mae gwelliannau i’r Stryd Fawr hefyd wedi creu mannau sy'n gyfeillgar i gerddwyr gyda seilwaith gwyrdd ac ardaloedd ar gyfer bariau a bwytai mewn steil rhyngwladol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

Mae prosiectau fel y Farchnad Cigyddion wedi'i hadfywio yn dangos sut mae ein cyllid yn creu swyddi, yn cefnogi busnesau lleol ac yn gwneud canol trefi yn lleoedd bywiog lle mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt ac ymweld â hwy.

Trwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, rydym wedi buddsoddi dros £156 miliwn dros y tair blynedd diwethaf a bydd y £17 miliwn ychwanegol hwn yn cyflymu'r cynnydd hwnnw, gan roi bywyd newydd i ganol trefi ledled Cymru a sicrhau'r twf economaidd y mae ein cymunedau yn ei haeddu.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth:

Mae canol y ddinas yn parhau i fod wrth wraidd ein heconomi a’n hunaniaeth leol, a dyna pam mae’r rhaglen Trawsnewid Trefi wedi bod mor bwysig i ni.

Mae Marchnad y Cigyddion, y Farchnad Gyffredinol a’r gwelliannau i’r Stryd Fawr a’r cyffiniau yn enghreifftiau gwych o sut rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ail-ddychmygu ac ail-fywiogi elfennau allweddol y ddinas.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: 

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet Jayne Bryant am ei chefnogaeth anhygoel, ac am weithio gyda ni i drawsnewid rhai o’n seilwaith a’n hadeiladau stryd fawr allweddol.

Mae Wrecsam yn ddinas wych ac mae’r cyllid rydyn ni wedi’i dderbyn drwy’r fenter Trawsnewid Trefi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.