Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (CDC) yn bwriadu leihau allgáu digidol a helpu i wella lefelau sgiliau digidol sylfaenol. Mae'r gwerthusiad terfynol yn adolygu'r gwaith o gyflawni, canlyniadau, ac yn darparu argymhellion ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol.

Prif ganfyddiadau

Canfyddiadau allweddol rhesymeg y rhaglen

  • Mae cyfraniad y rhaglen CDC at ddatblygu polisi cynhwysiant digidol yng Nghymru wedi bod yn gadarnhaol.
  • Mae’r rhaglen wedi leihau nifer y bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, er bod ffactorau allanol eraill, megis y pandemig COVID-19 wedi bod yn allweddol.
  • Mae angen parhau i fuddsoddi mewn mentrau cynhwysiant digidol.

Cynnydd a wnaed gan y rhaglen

  • Mae CDC wedi dod yn fwy strategol a chydweithredol dros amser.
  • Mae cefnogaeth i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi bod yn effeithiol.
  • Mae brand CDC yn uchel ei barch a dylid ei gadw.

Perfformiad y rhaglen

  • Mae'r rhaglen CDC wedi perfformio'n dda yn erbyn ei hamrywiol Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA).
  • Mae'r heriau yn parhau i fod o ran recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr.
  • Mae perfformiad gydag ymgysylltu â'r sector preifat wedi bod yn anfoddhaol.

Canlyniadau

Effaith ar sefydliadau

  • Bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad ystyrlon â chynhwysiant digidol ar draws y sefydliadau targed.
  • Mae benthyca cyfarpar digidol i sefydliadau a’u defnyddwyr elfen hynod effeithiol o’r rhaglen.
  • Gwella'n sylweddol gapasiti hyfforddi sefydliadau.

Effaith ar unigolion

  • Gwell sgiliau digidol a lles ymhlith unigolion a gefnogir gan CDC.
  • Mwy o ddefnydd o dechnoleg i reoli iechyd a lles.
  • Mae gwell cysylltedd digidol wedi lleddfu unigrwydd a gwella iechyd meddwl.

Argymhellion

  • Blaenoriaethu cynhwysiant digidol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru.
  • Darparu cefnogaeth ddwys i unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
  • Dylid parhau â'r dull thematig a fabwysiadwyd yn ystod 2024.
  • Mae’n werth cadw brand CDC y tu hwnt i fis Mehefin 2025, ynghyd â swyddogaethau strategol.
  • Dylai ystyried sut y gellid ymgysylltu’n well â’r sector preifat.
  • Dylid gosod targedau cyllido mwy hyblyg ar gyfer y dyfodol.
  • Dylai unrhyw ymyriadau cynhwysiant digidol yn y dyfodol cyd-fynd â’r diffiniadau a nodir yn y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.
  • Parhau i fenthyca offer digidol fel rhan o'r gefnogaeth.
  • Barhau i gefnogi CCDC yn ariannol dros y tair blynedd nesaf. Gyda’r nod o leihau’n raddol gyfran Llywodraeth Cymru o’r cyllid cyffredinol dros amser.
  • Ei gwneud yn ofynnol i CCDC i brofi mentrau prawf cysyniad.

Adroddiadau

Cymunedau Digidol Cymru: hyder digidol iechyd, a llesiant (gwerthusiad terfynol) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MB

PDF
8 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cymunedau Digidol Cymru: hyder digidol iechyd, a llesiant (Atodiad A: offerynnau ymchwil) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dr Angela Endicott

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.