Neidio i'r prif gynnwy

Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a mwynhau yn Gymraeg, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru ar 9 Chwefror, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi cyfres o gigiau Cymraeg mewn tafarndai cymunedol ledled Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles:

Mae tafarndai cymunedol yn fusnesau cymdeithasol sydd wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau ni. Maen nhw’n creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i gymdeithasu a defnyddio'r Gymraeg.

Drwy'r cynllun Grantiau Bach Prosiect Perthyn, mae Llywodraeth Cymru'n rhoi cefnogaeth i grwpiau cymunedol sefydlu tafarndai cydweithredol newydd, ac rwy'n falch iawn o'r cyfle i roi hwb i’r mentrau cydweithredol hyn eleni drwy noddi gigs ar Ddydd Miwsig Cymru.

Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad gwych o rym a phwysigrwydd iaith a cherddoriaeth. Mae'r Gymraeg yn perthyn i i ni i gyd, ac mae digwyddiadau fel rhain yn ffordd wych i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, i glywed yr iaith mewn lleoliad anffurfiol ac i hybu ei defnydd yn ein cymunedau.

Un dafarn gymunedol sy'n cynnal gig, gyda'r cerddor poblogaidd, Morgan Elwy, yw tafarn Glan Llyn yng Nghlawddnewydd ger Rhuthun. 

Dywedodd Eryl Williams o Fenter Gymunedol Clawddnewydd, Clocaenog, a Derwen, sy'n trefnu'r gig:

Mae'n bwysig iawn cynnal digwyddiadau Cymraeg ar gyfer pobl yn yr ardal yma, ac yn enwedig i bobl ifanc. Mae'n ffordd dda iddyn nhw gael cyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg, a defnyddio'r iaith y tu allan i'r ysgol. Y gobaith yw y bydd Dydd Miwsig Cymru'n rhoi blas iddyn nhw ar gerddoriaeth Gymraeg fel y bydd eu diddordeb yn parhau yn y dyfodol.

Dyma restr o'r digwyddiadau Dydd Miwsig Cymru sy'n digwydd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru:

8 Chwefror 2024

  • Bingo cerddoriaeth byw, Tyn Llan, Llandwrog, Gwynedd

9 Chwefror 2024: Dydd Miwsig Cymru

  • Mari Mathias, Gwesty’r Llew Gwyn, Cerrigydrudion, Sir Conwy
  • Dafydd Iwan, Saith Seren, Wrecsam
  • Meryl Elin, Iorwerth Arms, Bryngwran, Ynys Môn
  • Huw Chiswell a Rhiannon O’Connor, Tŷ Tawe, Abertawe
  • Phil Gas a’r Band, Pengwern, Llan Ffestiniog, Gwynedd
  • Elis Derby, Tafarn Yr Heliwr, Nefyn, Gwynedd
  • Kim Hon, Pys Melyn, Dafydd Owain, Cyn Cwsg, Parisa Fouladi, Dadleoli & Taran, Clwb Ifor Bach, Caerdydd 
  • Moniars, Tafarn y Fic, Llithfaen, Gwynedd
  • Endaf, Baby Brave, Eadyth, Ffenest, The Parish, Wrecsam
  • Danielle Lewis, Tafarn y Vale, Ystrad Aeron, Ceredigion
  • Paid Gofyn, Clwb y Bont, Pontypridd
  • Sgwrs efo Barry Archie Jones o’r band Celt, Ty’n Llan, Llandwrog, Gwynedd

10 Chwefror 2024

  • Morgan Elwy, Glan Llyn, Clawddnewydd, Sir Ddinbych
  • Gai Toms, Tafarn y Plu, Llanystumdwy, Gwynedd
  • Gwilym Bowen Rhys, Pengwerrn, Llan Ffestiniog, Gwynedd
  • Gethin a Glesni, Ty’n Llan, Llandwrog, Gwynedd

17 Chwefror 2024

Ciwb ac Alis Glyn, Tafarn Yr Eagles, Llanuwchllyn, Gwynedd