Cynghorwyr arbennig: cofrestr o fuddiannau
Cofrestr o fuddiannau cynghorwyr arbennig ym mis Ebrill 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rhaid i gynghorwyr arbennig sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro’n codi, neu y gellid ystyried ei fod yn codi, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a’u buddiannau preifat, yn ariannol neu fel arall.
Rhaid datgan buddiannau i Bennaeth Is-adran y Cabinet fel rhan o’r broses benodi. Mae’r wybodaeth bersonol y mae cynghorwyr arbennig yn ei datgelu yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Mae pob cynghorydd arbennig wedi cyflwyno ffurflen datgan buddiannau wedi’i chwblhau, gan gynnwys ffurflenni dim buddiant mewn achosion pan nad oedd gwrthdaro buddiannau gwirioneddol, posibl neu ganfyddiadol. Pan fo’n berthnasol i’r rôl, ac er mwyn helpu i reoli canfyddiad o wrthdaro neu i egluro sut y mae gwrthdaro yn cael ei reoli, cyhoeddir y buddiannau yn flynyddol.
Mae Pennaeth Is-adran y Cabinet wedi ystyried y ffurflenni hyn ac wedi barnu y dylai’r buddiannau perthnasol a ganlyn gael eu cyhoeddi.
Sarah Dickins
Cofnod yn y gofrestr
- Ymddiriedolwr, Peak Cymru. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid yr Ymddiriedolaeth, os byddant yn codi.
- Perchnogaeth deuluol o fferm ddefaid yn y De. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â datblygu polisi amaethyddol.
- Mae ei phartner yn Gyfarwyddwr Miller Research UK Ltd. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â busnes ei phartner neu gleientiaid y busnes, os byddant yn codi.
- Mae ei phartner yn Is-gadeirydd yr elusen ailgylchu Homemakers. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd unrhyw ran mewn materion sy’n ymwneud â’r elusen, os byddant yn codi.
- Mae ei phartner yn aelod o Fwrdd Gŵyl Fwyd y Fenni. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd unrhyw ran mewn materion sy’n ymwneud â’r elusen, os byddant yn codi.
- Cynghorydd Cymuned ar gyfer Ward Ynysgynwraidd. Mae’r rôl hon i gael ei chyflawni yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.
- Aelod o'r teulu yn Gyfarwyddwr Cyswllt Portland Communications. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â Portland Communication neu ei gleientiaid, os byddant yn codi.
- Mae aelod o'r teulu yn gweithio i Leukaemia UK. Mae Ms Dickins yn cael ei hymesgusodi o unrhyw faterion sy'n ymwneud â Leukaemia UK pe baent yn codi.
Madeleine Brindley
Cofnod yn y gofrestr
- Aelod o Gymdeithas y Cerddwyr. Mae Ms Brindley yn cael ei hymesgusodi o gymryd rhan mewn materion sy’n ymwneud â gwaith neu gyllid y gymdeithas, os byddant yn codi.
Haf Davies
Cofnod yn y gofrestr
- Mae aelod o’r teulu yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd Ms Davies yn datgan buddiant ac yn ymesgusodi o faterion ym maes gwaith penodol aelodau ei theulu yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ôl yr angen.
- Mae aelod o'r teulu yn gweithio i'r Eglwys yng Nghymru. Bydd Ms Davies yn datgan buddiant pan fo’r angen yn codi ac yna'n cymryd y camau priodol i ymesgusodi ei hun pe bai hynny'n angenrheidiol.
Victoria Solomon
Cofnod yn y gofrestr
- Dim diddordebau perthnasol i'w cyhoeddi
Luke Young
Cofnod yn y gofrestr
- Ar secondiad o Cyngor ar Bopeth. Bydd Mr Young yn datgan buddiant ac yn cymryd camau i ymesgusodi ei hun o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad tra bydd yn cael ei gyflogi fel Cynghorydd Arbennig.
- Cyn Aelod o Fwrdd Cenedlaethol Samariaid Cymru a Bwrdd Cynghori Strategol y Samariaid. Bydd Mr Young yn datgan buddiant ac yn cymryd camau i ymesgusodi ei hun o faterion sy'n ymwneud â'r sefydliad os oes angen.
- Nid yw Cyfarwyddwr Cwmni Clear Red Campaigns Ltd. yn masnachu ar hyn o bryd ac ni fydd Mr Young yn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd busnes i'r cwmni nac yn derbyn unrhyw incwm tra ei fod wedi'i gyflogi fel Cynghorydd Arbennig.
David Hooson
Cofnod yn y gofrestr
- Dim diddordebau perthnasol i'w cyhoeddi
Aelodaeth o Undebau Llafur
Mae gan Gynghorwyr Arbennig hawl i ddal aelodaeth o undeb llafur mewn rhinwedd bersonol, ond rhaid cymryd gofal i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddiadol â’u rolau portffolio. Mae’n ofynnol, felly, i Gynghorwyr Arbennig ystyried yr angen i ddatgan buddiant ac i ymesgusodi eu hunain, pan ystyrir y bo hynny’n angenrheidiol, o drafodaethau â'u Hundeb Llafur sy’n ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru yn eu meysydd.
