Neidio i'r prif gynnwy

Yr adroddiadau a’r rhybuddion diweddaraf

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd ac unrhyw rybuddion, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd. Mae eu hymgyrch newydd WeatherReady hefyd yn rhoi cyngor ar sut i baratoi ar gyfer y gaeaf.

Llifogydd

Ceir gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.  Cewch hefyd gofrestru ar gyfer rhybuddion am ddim am lifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu drwy ffonio Rhybuddion Llifogydd ar 0345 9881188.

Trafnidiaeth a thraffig

Os bydd eira, rhew neu lifogydd yn effeithio ar ffyrdd, dylech osgoi gyrru os yn bosibl. I gael cyngor amser real ynghylch traffig a chyflwr y ffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru.

I gael gwybod am gludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Am wybodaeth am drenau yng Nghymru ewch i Trafnidiaeth Cymru.

Ysgolion a gwasanaethau lleol

Yn gyffredinol, penaethiaid ysgolion sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylid cau ysgol ai peidio mewn tywydd garw.  I wybod a fydd eich ysgol ar agor, ewch i wefan yr ysgol neu wefan eich awdurdod lleol.

I gael manylion ynghylch effaith tywydd garw ar wasanaethau casglu gwastraff, ewch i wefan eich awdurdod lleol.

Cadw yn gynnes

Mae gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth wybodaeth am Daliadau Tanwydd y Gaeaf a thaliadau tywydd garw. 

Gall cynllun Nyth rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru eich helpu drwy gynnig cyngor a chymorth amrywiol.  Cewch wybod mwy ar NestCymru neu ffonio Nyth ar Rhadffôn 0808 808 2244.

Mae Age Cymru hefyd yn cynnig gwybodaeth am sut i gadw’n iach, yn gynnes ac yn ddiogel dros fisoedd y gaeaf.   

Pibelli'n byrstio

Cyngor ar sut i ddiogelu eich cyflenwad dŵr a beth i’w wneud os bydd eich cyflenwad dŵr yn rhewi neu os bydd pibell yn byrstio yma: 

Dŵr Cymru  
Hafren Dyfrdwy
Water UK