Neidio i'r prif gynnwys

Rydyn ni'n mynd i agor Pafiliwn Llywodraeth Cymru (gyferbyn ag NFU Cymru) er mwyn i chi allu ymweld â ni i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynllun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd staff Llywodraeth Cymru ar gael yn y Ffair Aeaf i ateb eich cwestiynau am y cynllun a'ch cynghori. Mae ein prif stondin yn Neuadd Morgannwg, a byddwn hefyd yn agor Pafiliwn Llywodraeth Cymru (gyferbyn ag NFU Cymru) er mwyn i chi allu ymweld â ni i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynllun. 

Sylwch na fyddwn ni'n gallu mynd i'ch cyfrif na'ch helpu i lenwi'ch cofnodion SFS ar-lein yn y Ffair Aeaf. Ond, fe allwn ni gynnig cyngor cyffredinol ar gwblhau eich Gweithredoedd Cyffredinol erbyn diwedd y flwyddyn cyn talu taliad olaf yr SFS i chi.   

Os oes angen cymorth arnoch i fynd i RPW Ar-lein neu ei ddefnyddio, neu i ddiweddaru eich Dangosfwrdd, gallwch drefnu apwyntiad cymorth digidol yn un o'n Swyddfeydd Rhanbarthol drwy gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gallwch chi hefyd gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW neu'r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (FLS) am help, gan gynnwys cyngor ar ofynion y cynllun a chadw cofnodion.