Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth y Gwasanaeth Ynni gefnogi nodau lleihau carbon Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a lleihau'r defnydd o drydan y grid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Gosododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen baneli solar ffotofoltäig ar y to ar 14 ysgol yn 2023 gyda chyllid benthyciad o £1.2 miliwn gan Raglen Ariannu Cymru. Nod y prosiect oedd lleihau'r defnydd o drydan o’r grid, cefnogi nodau lleihau carbon, arbed arian i ysgolion, a darparu cyfle dysgu i fyfyrwyr.

Ein cefnogaeth

Cymorth â cheisiadau am gyllid, cydlynu prosiectau, a chanllawiau technegol parhaus trwy gydol y gwaith cyflawni.

Datrysiad technoleg

  • 715 kW o solar ffotofoltäig wedi'i osod ar y to mewn 14 safle ysgol.
  • Integreiddio data ynni i'r cwricwlwm ysgol i gefnogi addysg hinsawdd.

Buddsoddiad

  • £1.2 miliwn o Raglen Ariannu Cymru.

Effaith

  • Amcangyfrifir y bydd 2,459 tCO₂e wedi'i arbed dros oes y prosiect.
  • £240,000 o arbedion blynyddol cyfunol mewn costau rhedeg o’r holl ysgolion.
  • Manteision addysgol trwy ddysgu sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm.
Ysgol Gynradd Garnteg, Torfaen baneli solar ffotofoltäig