Neidio i'r prif gynnwy

Cyd-destun

Yn ddiweddar comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau ddarn o ymchwil drwy Gyngor Ymgynghorol Arloesi Cymru (IACW): un ar y cyd-destun arloesi yng Nghymru, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a gynhaliwyd gan dîm o Brifysgol Caerdydd; un ar gymaryddion arloesi rhyngwladol, gan dîm o Amplyfi. Daeth yr ymchwil hwn i ben ddiwedd mis Mawrth 2021, ac yna cyflwynodd IACW gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r argymhellion hyn, ynghyd â fersiynau llawn y ddau adroddiad ymchwil, ar gael ar dudalennau gwe IACW.

Mae'r Tîm Arloesi yn Llywodraeth Cymru bellach mewn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid, i glywed barn ar yr ymchwil, ac i lywio penderfyniadau a strategaethau yn y dyfodol. Bydd cyfanswm o dair sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid ffurfiol: un wedi'i hanelu'n fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, un ar gyfer y sector cyhoeddus, ac un ar gyfer y sector preifat.

Y digwyddiad

Cynhaliwyd digwyddiad y sector cyhoeddus ar 19 Mai, a gwahoddwyd cynrychiolwyr o bob rhan o'r byd academaidd, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, bargeinion dinesig a rhanbarthol, a chymdeithasau tai. Cafodd yr holl gyfranogwyr gyfle i ddarllen yr adroddiadau a'r argymhellion cyn y sesiwn.

Roedd gennym tua 60 o gyfranogwyr, a oedd yn cynrychioli cyrff canlynol y sector cyhoeddus:

  • ARCH
  • ArloesiAber
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru (Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cyngor Bro Morgannwg
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cyngor Caerffili
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Innovate UK / UKRI
  • Llywodraeth Cymru
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol De Cymru
  • Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
  • Prifysgol Strathclyde
  • Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru
  • SPECIFIC IKC
  • Tyfu Canolbarth Cymru
  • Y Drindod Dewi Sant / ATiC

Agenda

  1. Croeso gan y Tîm Arloesi
  2. Cyflwyniad i'r ymchwil gan IACW
  3. Cyflwyniad gan dîm Prifysgol Caerdydd
  4. Cyflwyniad gan dîm Amplyfi
  5. Trafodaeth gyffredinol

Cwestiynau allweddol

Gofynnodd y Tîm Arloesi chwe chwestiwn allweddol i gyfranogwyr ymlaen llaw, er mwyn dechrau'r drafodaeth:

  1. Ydych chi'n credu bod angen Strategaeth Arloesi newydd ar Lywodraeth Cymru?
  2. A fyddai'n ddefnyddiol cael strategaeth drawsadrannol gydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru?
  3. Pa rôl ydych chi'n meddwl y mae caffael yn ei chwarae wrth gefnogi ecosystemau arloesi?
  4. Sut y gallwn gynyddu archwaeth risg mewn buddsoddiad gan y sector cyhoeddus?
  5. Sut gallai dull rhanbarthol o arloesi yng Nghymru weithio?
  6. Fyddech chi'n croesawu Corff Arloesi Cenedlaethol i Gymru? Pa rôl fyddech chi'n ei gweld ar gyfer y Corff hwn?

Pwyntiau allweddol o'r drafodaeth

Caffael: Un o'r prif themâu sy'n canolbwyntio ar gaffael yn y sector cyhoeddus, a'r angen i gaffael chwarae mwy o ran yn yr ecosystem arloesi yng Nghymru, a chroesawu dull ehangach.

Cydweithio ar draws sectorau; dull integredig: Roedd pwyslais cryf ar yr angen am fwy o gydweithio ar draws sectorau a sefydliadau, ac o fewn Lly wodraeth Cymru. Dywedodd cyfranogwyr y dylid cael mwy o amlygrwydd a mwy o gyfle i gysylltu.

Corff Arloesi Cenedlaethol: Thema allweddol arall oedd ar fater Corff Arloesi Cenedlaethol dros Gymru (CAC), gyda dadleuon o blaid ac yn erbyn. Roedd cwestiynau ynghylch pa ffurf y gallai ei gymryd, gyda'r rhan fwyaf o'r rheini o blaid CAC am iddo edrych yn debycach i gymuned neu rwydwaith o arloeswyr na chorff ffurfiol. Cafwyd sawl sylw yn nodi y byddai angen i CAC fod yn agored a gallu dileu rhwystrau – yn hytrach na rheoli neu cyfyngu’n ormodol – ac y byddai angen iddo gyd-fynd â rhanbarthau.

Cymryd risgiau ac osgoi risgiau: Canolbwyntiwyd ar bwysigrwydd cymryd risgiau mewn arloesedd, a phroblemau presennol osgoi risg yn y sector cyhoeddus. Cydnabuwyd bod gwahanol lefelau derbyniol o risg rhwng sefydliadau ac unigolion, ac y byddai angen newid diwylliannol o ran risg.

Ffurf y Strategaeth Arloesi newydd: Roedd pwyslais ar yr angen am strategaeth arloesi newydd i bwysleisio pwysigrwydd pobl ac unigolion, yn enwedig o ran adnabod arweinwyr, a chynnwys y genhedlaeth nesaf o arloeswyr yng Nghymru.

Cyfrifoldeb arloesi: Awgrymodd sawl cyfranogwr y byddai angen i randdeiliaid arloesi gynhyrchu eu cynlluniau gweithredu arloesi eu hunain a chymryd cyfrifoldeb am arloesi yn eu maes.

Data: Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ynghylch pwysigrwydd data fel sbardun i arloesi, ac fel arian allweddol ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag ynghylch rhannu a storio data.

Adborth

Os oes gennych unrhyw adborth ar yr ymchwil, neu ar ymgysylltu â rhanddeiliaid hyd yma, anfonwch e-bost at StrategaethArloesi@llyw.cymru i gyfrannu at y drafodaeth.