Neidio i'r prif gynnwy

Y Cyd-destun

Yn ddiweddar comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau ddarn o ymchwil drwy Gyngor Ymgynghorol Arloesi Cymru (IACW): un ar y tirlun arloesi yng Nghymru, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a gynhaliwyd gan dîm o Brifysgol Caerdydd; un ar gymaryddion arloesi rhyngwladol, gan dîm o Amplyfi. Daeth yr ymchwil hwn i ben ddiwedd mis Mawrth 2021, ac yna cyflwynodd IACW gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r argymhellion hyn, ynghyd â fersiynau llawn y ddau adroddiad ymchwil, ar gael ar dudalennau gwe'r IACW.

Mae'r Tîm Arloesi o fewn Llywodraeth Cymru bellach mewn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid, i glywed barn ar yr ymchwil, ac i lywio penderfyniadau a strategaethau yn y dyfodol. Bydd cyfanswm o dair sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid ffurfiol: un yn fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, un ar gyfer y sector cyhoeddus, ac un ar gyfer y sector preifat.

Y digwyddiad

Gwnaethom hysbysebu digwyddiad y sector preifat drwy'r cylchlythyr Arloesi a Twitter. Cafodd yr holl gyfranogwyr gyfle i ddarllen yr adroddiadau a'r argymhellion cyn y sesiwn. Gwnaeth bron i 50 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad.

Agenda

  1. Croeso gan y Tîm Arloesi
  2. Cyflwyniad i'r ymchwil gan IACW
  3. Cyflwyniad gan dîm Prifysgol Caerdydd
  4. Cyflwyniad gan dîm Amplyfi
  5. Trafodaeth gyffredinol

Cwestiynau allweddol

Gofynnodd y Tîm Arloesi bedwar cwestiwn allweddol i gyfranogwyr ymlaen llaw, er mwyn dechrau'r drafodaeth:

  1. A oes gennych ymdeimlad clir o flaenoriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru ym maes arloesi?
  2. Ydych chi'n meddwl bod rhwydweithiau arloesi cryf yng Nghymru?
  3. Os oeddech chi eisiau cael gafael ar gyllid neu gymorth arloesi, a fyddech chi'n gwybod ble i edrych?
  4. Fyddech chi'n croesawu Corff Arloesi Cenedlaethol i Gymru? Beth fyddai swyddogaeth y Corff hwn yn eich barn chi?

Themâu allweddol o'r drafodaeth

Llunio Strategaeth Arloesi newydd; dull integredig: Cafwyd trafodaeth hir ynglŷn â chynnwys a diwyg strategaeth arloesi newydd. Awgrymodd cyfranogwyr y dylai ddilyn ymagwedd gyfannol a chysylltiedig; y dylai gynnwys mwy o ymgysylltu â'r sector preifat o'r gwaelod i fyny, gan ddechrau gyda BBaChau; y dylai sbarduno diwylliant arloesi newydd yng Nghymru; y dylai ymwneud â thirwedd polisi arloesi Llywodraeth y DU sy'n newid yn gyflym.

Cydweithio ar draws sectorau: Cododd sawl cyfranogwr bwyntiau ynghylch gwell cydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, efallai gyda rôl i Lywodraeth Cymru fel galluogwr neu hwylusydd. O ran adeiladu clystyrau, yr oedd llawer yn eu gweld fel llwybr defnyddiol ymlaen, byddai angen gwell cydweithio rhwng prifysgolion a chorfforaethau.

Arloesi cymdeithasol: Roedd ymdeimlad cryf bod angen i arloesi fod yn rhan o gyd-destun ehangach newid cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Roedd galw am strategaeth newydd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mwy fel y newid yn yr hinsawdd a sero net, gofal iechyd, symudedd cymdeithasol a sgiliau, ac ati, ac arloesi i osod agenda llesiant.

Neges symlach: Thema gref a ddaeth i'r amlwg o'r drafodaeth oedd yr angen i symleiddio a chysoni: neges Llywodraeth Cymru, y mathau o gymorth sydd ar gael, cymorth ar gyfer ceisiadau a chynigion, a monitro prosiectau. Roedd galw hefyd am gymorth mwy penodol i osgoi’r problemau cychwynnol ar gyfer manteisio ar ymchwil arloesi yn y diwydiant.

Caffael: O ran caffael yn y sector cyhoeddus, roedd cytundeb cyffredinol bod hyn yn sbardun pwysig ar gyfer arloesi, a bod byrddau iechyd prifysgolion y GIG yn gyrff hanfodol yn y maes hwn.

Cryfderau: Roedd ymdeimlad cyffredinol bod angen i Gymru fod yn gliriach ynglŷn â ble mae ei chryfderau, ac yn fwy beiddgar wrth siarad am y rhain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol er mwyn bod yn gystadleuol.

Ysgrifennu ceisiadau o safon: Galwodd sawl cyfranogwr am strategaethau gwell i wella ysgrifennu ceisiadau ar raddfa fawr a chefnogi ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru a ffynonellau allanol.

Adborth

Os oes gennych unrhyw adborth ar yr ymchwil, neu ar ymgysylltu â rhanddeiliaid hyd yma, anfonwch e-bost at InnovationStrategy@gov.cymru i gyfrannu at y drafodaeth.