Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi,

Pwrpas

Pwrpas y Cyngor yw cynghori Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud ag arloesi, gan gynnwys monitro cynnydd o ran cyflenwi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi: Ffyniant i Bawb.

Bydd Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn:

  • cynghori Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth eang o faterion arloesi i sicrhau bod economi Cymru yn gwella llesiant dinasyddion, amgylchedd a chymunedau Cymru
  • arwain meddylfryd arloesi yng Nghymru
  • rhoi cyngor ar strategaethau, polisïau a blaenoriaethau arloesi i ganiatáu i'r Llywodraeth ddefnyddio'n effeithiol y dulliau cymorth sydd ar gael wrth lunio a gweithredu polisïau i ategu'r ystod lawn o amcanion
  • sicrhau bod pob ffurf ar arloesi o safbwynt diwydiannau, prifysgolion, y sector cyhoeddus a'r drydedd sector, yn cael ei ystyried er lles yr economi a llesiant cenedlaethau'r dyfodol
  • monitro cynnydd o ran cyflawni amcanion Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru a chyfrannu atynt
  • cynghori a diweddaru Llywodraeth Cymru ar dueddiadau a datblygiadau arloesi sy'n dod i'r amlwg yn y DU, yr UE ac ar draws y byd. Nodi meysydd sydd eisoes yn gadarn a chyfleoedd yn y dyfodol drwy ddefnyddio dull 'arbenigo craff' a nodir gan y Comisiwn Ewropeaidd
  • cynghori Llywodraeth Cymru ar sut y mae prosiectau posibl a ariennir gan gyllid yr UE yn cyd-fynd yn strategol ag agenda arloesi Cymru
  • datblygu syniadau ac ymyriadau polisi i helpu i nodi tirwedd arloesi Cymru ar gyfer y dyfodol