Canllawiau ar feirysau anadlol, gan gynnwys COVID-19 ar gyfer gweithwyr gofal iechyd er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a defnyddwyr y gwasanaeth.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer darparwyr a staff iechyd a gofal cymdeithasol a’u diben yw amlinellu'r drefn brofi bresennol a chyngor ar gyfer rheoli feirysau anadlol, gan gynnwys COVID-19. Mae’r canllawiau wedi'u llywio gan gyngor iechyd y cyhoedd a chyngor clinigol sy'n ystyried yr amodau iechyd cyhoeddus presennol.
Byddwn yn adolygu'r canllawiau hyn yn gyson wrth i gyffredinrwydd yr achosion newid ac wrth inni gael gwell gwybodaeth am amrywiolion COVID-19 cyfredol ac amrywiolion newydd yn y dyfodol.
I bwy mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?
Mae'r canllawiau hyn yn disodli'r holl fersiynau blaenorol ac maent yn berthnasol i staff sy'n gweithio mewn cysylltiad agos â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae hefyd yn berthnasol i garchardai ac ysgolion arbennig.
Staff sydd â symptomau o haint ar y llwybr anadlol, gan gynnwys COVID-19
Cynghorir unrhyw aelod staff sy’n ymdrin yn uniongyrchol â chleifion/defnyddwyr gwasanaeth ac sydd â symptomau o haint ar y llwybr anadlol, gan gynnwys COVID-19, a/neu sydd â thymheredd uchel i aros adref a rhoi gwybod i’w gyflogwr cyn gynted â phosibl.
Pan fyddant yn teimlo'n well a’u tymheredd yn normal, a’u bod yn teimlo’n barod i ddychwelyd i’r gwaith, dylent drafod gyda’u cyflogwr sut y gallant leihau unrhyw risg gan y gallent fod yn heintus o hyd. Gall hyn gynnwys cynnal asesiad risg os yw'r aelod staff yn gweithio gyda chleifion y mae eu system imiwnedd yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol er iddyn nhw gael eu brechu.
Dull profi
Ar hyn o bryd, ni ddylai staff wneud profion asymptomatig rheolaidd. Yn ogystal, o 1 Ebrill 2023 ni fydd angen profion symptomatig rheolaidd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal, carcharorion a staff a phreswylwyr mewn ysgolion arbennig.
Bydd profion yn cael eu harwain yn fwy clinigol a byddant yn parhau yn y sefyllfaoedd canlynol ar gyfer staff, preswylwyr mewn cartrefi gofal ac ysgolion arbennig, a charcharorion.
Sefyllfa
Staff ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac ysgolion arbennig sy’n gymwys i gael triniaethau.
Rheswm dros Brofi
Os ydynt yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 a bod ganddynt symptomau anadlol neu os ydynt wedi cael cyngor clinigol.
Prawf
Prawf llif unffordd neu PCR.
Sefyllfa
Preswylwyr mewn cartrefi gofal, ysgolion arbennig a charcharorion.
Rheswm dros Brofi
Os ydynt yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 a bod ganddynt symptomau anadlol neu os ydynt wedi cael cyngor clinigol.
Prawf
Prawf llif unffordd neu PCR.
Sefyllfa
Rheoli achosion mewn ysbytai, cartrefi gofal, carchardai ac ysgolion arbennig.
Rheswm dros Brofi
Atal a rheoli heintiau /ffrydio i reoli achosion a brigiadau o achosion mewn lleoliadau caeedig.
Prawf
PCR.
Dylai staff sy'n profi'n bositif am COVID-19 yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd uchod geisio osgoi dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn am 10 diwrnod ar ôl iddynt gymryd y prawf neu ddechrau cael symptomau.
Dylai preswylwyr a chleifion mewnol sy'n profi'n bositif ddilyn Mesurau Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Heintiau Anadlol Acíwt (ARI) gan gynnwys COVID-19 ar gyfer Lleoliadau Iechyd a Gofal.
Staff sy'n gyswllt cartref i rywun sydd â COVID-19
Pobl sy'n byw yn yr un cartref â rhywun sydd â COVID-19 neu feirws anadlol arall sydd â'r risg uchaf o gael eu heintio oherwydd eu bod yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad agos am gyfnod estynedig.
Mae pobl sydd wedi aros dros nos ar aelwyd rhywun sydd â COVID-19 hefyd yn wynebu risg uchel.
Dylai staff sy'n gyswllt cartref neu’n gyswllt dros nos i rywun sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif neu sydd â symptomau COVID-19 neu feirws anadlol arall drafod ffyrdd o leihau'r risg o drosglwyddiad gyda'u rheolwr llinell. Gallai hyn gynnwys ystyried:
- adleoli staff gofal iechyd i ardaloedd risg is os yw’n ymdrin yn uniongyrchol â chleifion, yn enwedig os yw'n gweithio gyda chleifion agored i niwed gan gynnwys y rhai sydd â system imiwnedd gwan sy'n golygu eu bod mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol er eu bod wedi’u brechu (gov.uk)
- gweithio o adref os yw’n aelod o staff gofal iechyd nad yw’n wynebu cleifion
- cyfyngu ar ddod i gysylltiad agos â phobl eraill, yn enwedig mewn mannau gorlawn, caeedig neu fannau sydd wedi'u hawyru'n wael
Pan fyddant yn y gwaith, rhaid i staff barhau i gydymffurfio'n drwyadl â'r holl ragofalon atal a rheoli heintiau perthnasol.
Os yw staff yn datblygu unrhyw symptomau, dylent ddilyn y cyngor i staff sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.
Atal a rheoli heintiau
Heb brofion, bydd yn hanfodol cadw at y canllawiau presennol ar fesurau atal a rheoli heintiau ar gyfer heintiau anadlol acíwt (ARI) gan gynnwys COVID-19 ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal - Cymru. Mae hyn yn cynnwys monitro ac adrodd ar achosion, arferion hylendid da a'r defnydd priodol o gyfarpar diogelu personol (PPE).
Dylai pob staff iechyd a gofal fod yn gyfarwydd ag egwyddorion rhagofalon rheoli heintiau safonol (SICP) a rhagofalon yn seiliedig ar drosglwyddiad (TBP) ar gyfer atal lledaeniad haint mewn lleoliadau iechyd a gofal a dylent weithredu mesurau atal a rheoli heintiau yn unol â Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru NIPCM - Iechyd Cyhoeddus Cymru (GIG.cymru).
Cyfrifoldeb y Bwrdd Iechyd neu'r cyflogwr o hyd yw sicrhau bod staff ac ymwelwyr yn cydymffurfio â chanllawiau atal a rheoli heintiau ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal.