Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi lansio canllawiau newydd i helpu i amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru rhag cam-drin domestig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Gwybodaeth a Chanllawiau ar Gam-drin Domestig: Diogelu Pobl Hŷn yng Nghymru ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 

Mae'r canllawiau'n cynnig cyngor ymarferol i weithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau bod gan bobl hŷn sy'n profi neu sydd wedi profi cam-drin yn cael y cymorth a'r cyngor gorau sydd ar gael. 

Nod y canllawiau hefyd yw codi ymwybyddiaeth o'r mater a cheisio datblygu dealltwriaeth o'r cymhlethdodau o weithio gyda phobl hŷn sydd angen gofal a chymorth oherwydd cam-drin domestig. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: 

"Mae rhai dioddefwyr hŷn yn profi cam-drin am gyfnod sydd ddwywaith yn hirach na phobl ifanc cyn gofyn am help, ac nid yw hyn yn gallu parhau. Nid yw'n dderbyniol bod pobl hŷn yn dioddef ar eu pen eu hunain heb y cymorth eithriadol sy'n gallu cael ei roi iddyn nhw gan ein gwasanaethau arbenigol. 

"Rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n partneriaid i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig, ac rwy'n falch bod y canllawiau hyn yn cynnig cyngor ymarferol i helpu gweithwyr proffesiynol i weithio'n effeithiol gyda phobl hŷn. 

"Ers i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ddod i rym, rydyn ni wedi datblygu sylfeini cadarn i greu sector cryfach i gefnogi unigolion a theuluoedd sydd mewn perygl, neu sy'n ei chael yn anodd delio â chanlyniadau cam-drin, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny." 

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira:

"Rwy'n falch o fod wedi gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i lunio'r canllawiau mawr eu hangen hyn ar amddiffyn pobl hŷn rhag cam-drin domestig. 

"Bydd y canllawiau'n cynorthwyo gweithwyr proffesiynol y rheng-flaen sy'n gweithio yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thai i adnabod achosion o gam-drin domestig yn erbyn pobl hŷn yn well, ac ymateb yn effeithiol iddyn nhw gan fod hyn yn effeithio ar nifer sylweddol o bobl bob blwyddyn. 

"Bydd y canllawiau hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o'r materion y mae pobl hŷn yn eu hwynebu wrth ddioddef cam-drin domestig. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a'r cymorth cywir ar gael iddyn nhw yn ystod cyfnod mor drawmatig yn eu bywydau."