Neidio i'r prif gynnwy
Image

Cyflwyniad

Partneriaeth gymdeithasol deirochrog yw Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy'n cynnwys yr undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae'n cwmpasu'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a fforwm materion gweithlu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithlu ac mae'n cydnabod yr effaith ddofn y gall cam-drin domestig ei chael ar unigolyn. Oherwydd hyn, mae'r Cyngor Partneriaeth yn cefnogi darparu absenoldeb â chyflog i staff ar draws y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig sy'n dioddef cam-drin domestig, ac yn gofyn i bob corff gwasanaeth cyhoeddus datganoledig ymrwymo'n glir i ddarparu absenoldeb â chyflog i staff sy'n dioddef cam-drin domestig, lle bo'n briodol, o fewn eu polisïau absenoldeb arbennig neu gam-drin domestig.

Effaith cam-drin domestig a phwysigrwydd absenoldeb â chyflog

Mae effaith cam-drin domestig yn eang ei chwmpas. Efallai y bydd angen amser o'r gwaith ar staff i gael cyngor cyfreithiol neu ariannol, i drefnu gofal plant neu lety arall, ac i gael cyngor meddygol. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu o'r farn, felly, ei bod yn bwysig bod gan sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru bolisïau i gefnogi staff sy'n dioddef cam-drin domestig ac i wneud darpariaeth ar gyfer absenoldeb â chyflog, lle bo'n briodol, o fewn y polisïau hyn neu bolisïau absenoldeb arbennig. Mae'r Cyngor Partneriaeth o'r farn bod polisïau o'r fath yn cynnig cefnogaeth i'r rheini sy'n goroesi camdriniaeth a'r tawelwch meddwl hanfodol hwnnw na chânt eu cosbi'n ariannol yn sgil yr hyn y maent yn gorfod ei wneud i ddelio ag effeithiau cam-drin domestig.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cydnabod bod yna lawer o sefydliadau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru sy'n darparu absenoldeb â chyflog i gefnogi staff sy'n dioddef cam-drin domestig, ac mae am gydnabod yr arferion da sy'n bodoli. Er enghraifft, Cyd-ddatganiad Cyd-Gyngor Cymru ar Gam-drin Domestig, Polisi Gweithlu y GMB i Roi Terfyn ar Gam-drin Domestigi Roi Terfyn ar Gam-drin Domestig a chanllaw UNSAIN ar drais a cham-drin domestig.

Fodd bynnag, mewn rhai sefydliadau, er eu bod yn mynegi parodrwydd i gefnogi'r rheini sy'n dioddef cam-drin domestig, nid oes ganddynt bolisïau penodol. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu am annog pob corff gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i ymrwymo'n benodol i gefnogi staff sy'n dioddef cam-drin domestig, drwy ymgorffori darpariaeth absenoldeb â chyflog, lle bo'n briodol, o fewn eu polisïau absenoldeb arbennig neu gam-drin domestig, fel bod gan staff sicrwydd o gymorth ariannol os bydd y broblem hon yn dod ar eu traws.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn argymell bod sefydliadau'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn ymrwymo i bolisïau ar gyfer y gweithlu sy'n cynnig hyblygrwydd a chydymdeimlad i staff sy'n dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys darpariaeth absenoldeb â chyflog, lle bo'n briodol, fel bod y polisïau:

  • Yn caniatáu i staff sy'n dioddef cam-drin domestig wneud cais am absenoldeb â chyflog fel rhan o amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i'w cefnogi
  • Yn cydnabod bod darpariaeth absenoldeb â chyflog yn opsiwn pwysig a chadarnhaol wrth gefnogi'r rheini sy'n goroesi cam-drin domestig
  • Yn rhoi tawelwch meddwl i staff sy'n dioddef na chânt eu cosbi wrth iddynt wneud yr hyn sydd ei angen i ddelio ag effeithiau amrywiol cam-drin domestig, ee cael gafael ar gyngor cyfreithiol, ariannol neu feddygol, cymorth gofal plant neu lety arall.

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol/ Llywodraeth Cymru
Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol Ysgrifennydd TUC Cymru/Ochr Undebau Llafur Cyngor Partneriaeth y Gweithlu
Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Ysgrifennydd Ochr Cyflogwyr Cyngor Partneriaeth Gweithlu/Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru