Neidio i'r prif gynnwy
Image

Cyflwyniad

Partneriaeth gymdeithasol deirochrog yw Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy'n cynnwys yr undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae'n cwmpasu'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac yn fforwm ar gyfer materion gweithlu ar draws y gwasanaethau hynny.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cydnabod y rôl bwysig data monitro amrywiaeth o ran ysgogi mentrau i sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle. Felly, mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cyhoeddi'r datganiad ar y cyd hwn yn dilyn adolygiad o dri sefydliad gwasanaeth cyhoeddus datganoledig (Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd a Chorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru). Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo gwaith teg a chydraddoldeb yn y gweithle ac i rannu trefniadau arfer gorau i wella gwasanaethau ledled Cymru. Mae'r Cyngor Partneriaeth y Gweithlu  yn cynghori cyrff y sector datganoledig i adolygu eu trefniadau monitro presennol ac i ystyried sut y gellir eu gwella i ddarparu mewnwelediadau mwy effeithiol . Mae hefyd yn annog cyrff cyhoeddus i weithredu ar y data a gesglir ganddo i ddatblygu cydraddoldeb yn y gweithle a nodi meysydd lle mae angen gwella.

Pwysigrwydd monitro amrywiaeth

O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Deddf Cydraddoldeb 2010), mae'n ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus fonitro ac adrodd gwybodaeth am gyflogaeth yn erbyn naw nodwedd warchodedig yn flynyddol.

Fodd bynnag, mae pwysigrwydd monitro amrywiaeth yn mynd y tu hwnt i gydymffurfedd cyfreithiol a gall gyfrannu at wneud sefydliadau yn fwy cynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gwella perfformiad sefydliadau, a  gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Mae monitro data cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu yn caniatáu i sefydliadau ddatblygu amcanion cydraddoldeb sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac i ddeall effaith polisïau a mentrau presennol ar y gweithlu. Mae monitro amrywiaeth hefyd yn nodi meysydd lle mae risg o wahaniaethu ac yn caniatáu i'r sefydliad ymateb yn briodol.

Gall lefelau datgelu isel ymhlith staff fod yn broblem gyffredin i sefydliadau wrth gynnal ymarferion monitro amrywiaeth. Gall sawl ffactor effeithio ar hyn, gan gynnwys pryderon staff ynghylch goblygiadau posibl rhannu eu data yn ogystal â diffyg ymwybyddiaeth mewn perthynas â'r rhesymeg dros gasglu'r wybodaeth hon.

Er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, gall sefydliadau gymryd camau i ddeall y pryderon sydd gan staff fel y gellir cymryd camau penodol i'w lleddfu. Gall darparu rhesymeg dros fonitro amrywiaeth a nodi'n glir sut y bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i gael effaith gadarnhaol ar staff hefyd annog staff i gwblhau'r wybodaeth sydd ei angen. Gall sefydliadau hefyd ddefnyddio rhanddeiliaid allweddol i gyfathrebu pwysigrwydd monitro amrywiaeth, gan gynnwys uwch arweinwyr, undebau llafur a rhwydweithiau staff. Gallant hefyd ystyried dulliau cyfathrebu amgen i annog cyfradd ymateb uwch.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cydnabod gwerth data monitro amrywiaeth nid yn unig fel ffordd o nodi sefylla gyfredol sefydliadau o ran amrywiaeth a chynhwysiant, ond hefyd i gyfarwyddo mentrau a fydd fwyaf effeithiol i'r gweithlu. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn annog cyrff y sector datganoledig i:

  • Nodi'r nodweddion gwarchodedig lle mae'r cyfraddau datgelu yn gymharol isel.
  • Cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu i gynyddu'r data a gedwir yn y meysydd hyn. Dylai hyn gynnwys rhesymeg glir dros fonitro amrywiaeth a sicrwydd bod gwybodaeth yn cael ei chasglu'n ddienw.
  • Ymrwymo i gyhoeddi data monitro amrywiaeth mewn ffordd glir a chyson sy'n caniatáu cymharu setiau data blynyddol.
  • Nodi sut y gellir defnyddio'r data i gyfarwyddo mentrau neu osod amcanion cydraddoldeb a all gael effaith gadarnhaol ar y gweithlu a chynyddu cynrychiolaeth ar draws y sefydliad.