Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Cydbwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (CPG).

Pwrpas Cydbwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

1.1 Mae Cydbwyllgor Gweithredol CPG yn atebol i’r CPG. Mae’n gweithredu mewn partneriaeth gyfartal rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac Undebau Llafur yng Nghymru. Mae cytundeb yn y cyd-destun hwn yn golygu cytundeb gan y tri uchod.

1.2 Pwrpas y Cydbwyllgor yw hwyluso gwaith CPG, mewn ymgynghoriad â chyrff cynrychiadol.  Er enghraifft, gall wneud y canlynol:

  • darparu fforwm ar gyfer ymgysylltu yn gynnar a chynnal trafodaeth strategol ar faterion gweithlu rhwng Undebau Llafur, cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, a Llywodraeth Cymru; a/neu
  • penderfynu, mewn ymgynghoriad â grwpiau cyfansoddol, ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu sector cyhoeddus y mae’n credu sy’n deilwng o fod angen ymdriniaeth strategol
  • datblygu rhaglen flynyddol ffurfiol, i’w chytuno gan CPG, gan flaenoriaethu’r materion gweithlu sector cyhoeddus mwyaf arwyddocaol a strategol.

Aelodaeth

2.1 Bydd cyflogwyr, Undebau Llafur a Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar dri aelod o’r Cydbwyllgor o’u sefydliadau eu hunain. Bydd gan bob partner cymdeithasol eu trefniadau llywodraethu eu hunain i sicrhau bod gan aelodau’r Cydbwyllgor yr awdurdod angenrheidiol i hwyluso gwaith CPG ar ran y rhai y maent yn eu cynrychioli.

2.2 Bydd rôl Cadeirydd y Cydbwyllgor yn cael ei rhannu yn gyfartal rhwng y tri phartner cymdeithasol, gyda’r Cadeirydd unigol yn cael ei enwebu o’i grŵp ei hunan.

2.3 Gellir estyn gwahoddiad i gyfranogwyr ychwanegol ddod i gyfarfodydd y Cydbwyllgor at ddibenion penodol, er enghraifft, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru fel sy’n ofynnol gan yr agenda. 

2.4 Ni fydd cworwm yn y cyfarfodydd oni bai bod cynrychiolydd o bob un o’r partneriaid. Mae’n rhaid i’r tri phartner gytuno, cyn y cyfarfod, a ddylai’r Cydbwyllgor gyfarfod gyda llai na thri aelod o bob partner.

2.5 Gall bob partner anfon dirprwy yn lle un aelod mewn unrhyw gyfarfod. Y partner fydd yn dewis y dirprwy. 

2.6 Gall bob partner gael hyd at dri arsylwr. Y partner fydd yn dewis yr arsylwyr. Gall arsylwyr gynnwys unigolion a all ddirprwyo ar ran aelod, ond nid oes rhaid i’r partneriaid ddewis dirprwy o blith eu harsylwyr yn unig. Os yw unigolyn sydd fel arfer yn arsylwi cyfarfodydd yn dirprwyo ar ran aelod, caniateir llenwi sedd yr arsylwr.

Swyddogaeth Cydbwyllgor Gweithredol CPG

Bydd y Cydbwyllgor yn ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:

  • datblygu rhaglen waith flynyddol ffurfiol i’w hystyried gan CPG, gan flaenoriaethu’r materion mwyaf arwyddocaol yn y sector cyhoeddus a gweithlu Cymru gyfan
  • adnabod a chynnig unrhyw faterion ychwanegol y mae’n credu sy’n briodol i’r CPG eu hystyried 
  • ymgysylltu ac ymgynghori gyda chyrff cynrychioliadol perthnasol 
  • cefnogi’r CPG i ddatblygu atebion/cytundeb/canllawiau ynglŷn â materion sydd wedi’u cynnwys ar y rhaglen waith flynyddol 
  • cefnogi’r CPG i weithredu/dosbarthu canlyniadau eu trafodaethau
  • monitro a rhoi gwybod i’r CPG ynglŷn â gweithredu/dosbarthu 
  • gwerthuso effaith y gweithgaredd hwn 
  • sefydlu a monitro rhaglen waith y Gyd-ysgrifenyddiaeth.

Amlder cyfarfodydd

4.1 Bydd y Cydbwyllgor yn cyfarfod o leiaf bob chwarter, neu fel sy’n ofynnol i hwyluso gwaith CPG. Gall fod eithriadau, er enghraifft yn ystod Toriad y Cynulliad neu oherwydd digwyddiadau annisgwyl. 

Gweithredu cyfarfodydd

5.1 Bydd swyddogaeth Ysgrifenyddiaeth y cyfarfodydd hyn yn cael ei darparu gan Gyd-ysgrifenyddiaeth CPG. Hefyd, bydd y tri phartner cymdeithasol yn paratoi papurau os oes angen. 

5.2 Bydd nodiadau’r cyfarfod yn cofnodi prif bwyntiau’r drafodaeth ac unrhyw gamau gweithredu. Bydd y nodyn yn cael ei ddosbarthu i aelodaeth ehangach CPG a’i gyhoeddi ar wefan CPG. 

Cyfrinachedd, Buddiannau, Cyfryngau

6.1 Rhaid datgan unrhyw wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod. Gall dogfennau fod yn destun ceisiadau mynediad at wybodaeth a wnaed dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os ceir ceisiadau o’r fath, dilynir gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth arferol Llywodraeth Cymru.

Adolygu

7.1 Ar ôl 12 mis, bydd CPG yn adolygu gweithrediad y Cydbwyllgor i sicrhau bod ei weithgareddau a threfniadau yn parhau i fod yn briodol ac yn ateb y gofyn. Wedi hynny, bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu bob tair blynedd.