Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn bartneriaeth o'r undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae'n cwmpasu'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac mae'n fforwm ar gyfer materion y gweithlu ar draws gwasanaethau’r sector cyhoeddus.

Mae'r Cyngor yn gweithredu mewn partneriaeth gyfartal. Mae'n ceisio dod i gytundeb neu benderfynu ar gyfeiriad rhwng y 3 phartner ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu ar draws gwasanaethau’r sector cyhoeddus. Mae'n ffynhonnell  o arweiniad arbenigol, ac yn fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth ac arfer da ac ar gyfer dylanwadu. Mae'n gweithio i sicrhau bod holl gytundebau Cymru yn cael eu gweithredu a bod canllawiau'n cael eu dilyn. Mae hyn yn cynnwys ystyried, herio a gwella polisïau sy’n berthnasol i’r gweithlu. Mae hefyd yn cefnogi ymarfer ar y cyd, hyd yn oed lle na ellir dod i gytundeb ffurfiol.

Nid yw'r Cyngor yn fforwm ar gyfer cyd-fargeinio, datrys anghydfodau lleol nac ar gyfer materion sy'n benodol i sector.

Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

Mae Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn atebol i’r Cyngor ac yn hwyluso ei waith. Mae'r Cyd-bwyllgor Gweithredol yn bartner cydradd ac mae ei aelodaeth yn cael ei chymryd yn uniongyrchol o’r Cyngor.

Tîm Cymorth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

Mae Tîm Cymorth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn adrodd i'r Cyd-bwyllgor Gweithredol. Mae'n cydweithio â phartneriaid i gyflawni rhaglen waith flynyddol y Cyngor. Mae'r Tîm Cymorth yn cael ei recriwtio o'r 3 phartner a gynrychiolir ar y Cyngor.