Mae gwaith uwchraddio a gefnogir gan y Gwasanaeth Ynni wedi lleihau'n sylweddol y defnydd o ynni, allyriadau carbon, a chostau ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.
Crynodeb
Rhwng 2017 a 2022, gweithredodd Cyngor Sir Ynys Môn raglen effeithlonrwydd ynni eang mewn 31 o adeiladau, gan gynnwys ysgolion, canolfannau hamdden a swyddfeydd y cyngor fel rhan o'i Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni. Gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni ac wedi'i gyflawni drwy raglen Re:fit Cymru, mae'r uwchraddiadau wedi lleihau'r defnydd o ynni, allyriadau carbon a chostau gweithredol yn sylweddol.
Ein cefnogaeth
Darparodd y Gwasanaeth Ynni gefnogaeth strategol a thechnegol trwy gydol y prosiect, gan gynnwys canllawiau ar ddewis technoleg, opsiynau cyllido a chaffael, ac asesiadau technegol manwl. Roedd hyn yn galluogi'r cyngor i gyflawni uwchraddiadau effeithiol wedi'u teilwra i'w adnoddau a'i strategaeth gyflawni.
Datrysiad technoleg
- 752 kWp o baneli solar ffotofoltäig (PV).
- 4,800 ffitiadau golau LED.
- 1,050 metr o inswleiddio pibellau.
- 700 kW o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi'u gosod ar draws safleoedd.
Buddsoddiad
- Cyflenwyd drwy raglen Re:fit Cymru gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni.
Effeithiau
- 31 safle wedi'u huwchraddio.
- 892 tunnell o CO₂ yn cael ei arbed bob blwyddyn.
- 3,411 MWh o arbedion ynni y flwyddyn.
- Gostyngiad o £261,000 mewn biliau ynni blynyddol.
- Crëwyd 2 swydd leol newydd.
- Cefnogi amcanion carbon sero net Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae rhaglen Re:fit Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth gyflymu ein hamcanion carbon sero net ac rydym bellach yn bwrw ymlaen â'r gwaith Cam 2 mewn partneriaeth â'n darparwr gwasanaeth dethol, Asset Plus.
Rhys Griffith, Prif Syrfëwr, Cyngor Sir Ynys Môn.
