Ynglŷn â CGA, cofrestru, y Pasbort Dysgu Proffesiynol ac achredu.
yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. A mwy nag 85,000 wedi cofrestru, dyma gorff rheoleiddio mwyaf Cymru, a’r gofrestr ehangaf o ymarferwyr addysg yn y byd. Prif nodau’r Cyngor yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac unigolion sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru
- diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd, a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
Cofrestru
Un o brif swyddogaethau’r Cyngor yw cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg. Yn dilyn newid yn y gyfraith, o fis Mai 2023, rhaid i’r ymarferwyr canlynol gofrestru â’r Cyngor:
- athrawon ysgolion a gynhelir
- athrawon addysg bellach
- athrawon ysgolion annibynnol
- athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- gweithwyr ieuenctid
- gweithwyr cymorth dysgu ysgolion a gynhelir
- gweithwyr cymorth addysg bellach
- gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol
- gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
- gweithwyr cymorth ieuenctid.
Mae gwybodaeth am y newidiadau i’w gweld yn adran y dolenni.
Ar ôl cofrestru gyda’r Cyngor, mae gofyn i ymarferwyr dalu ffi gofrestru flynyddol i’r Cyngor. Efallai y bydd angen i chi gofrestru mewn mwy nag un categori, gan ddibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud, neu’n bwriadu ei wneud, a rhai meini prawf penodol. Dim ond un ffi sy’n rhaid i chi ei dalu.
Caiff y ffi sy’n daladwy ei phennu gan Weinidogion Cymru, ac mae’n dal i fod yn un o’r isaf yn y DU ar gyfer cofrestru proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal er mwyn ei chadw mor isel â phosibl i ymarferwyr, fel a ganlyn:
£45
- athrawon ysgolion a gynhelir
- athrawon ysgolion annibynnol
- athrawon addysg bellach
- athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- gweithwyr ieuenctid
£15
- gweithwyr cymorth dysgu ysgolion a gynhelir
- gweithwyr cymorth addysg bellach
- gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol
- gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
- gweithwyr cymorth ieuenctid
Mae’r asesiadau effaith yn dangos sut mae’r newidiadau yn cefnogi’r gwaith i adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio ysgolion annibynnol yng Nghymru, ac yn cyflawni argymhellion a gynigiwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol yn adnodd ar-lein hyblyg a chwbl ddwyieithog sydd ar gael i bawb sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae eich PDP yn llawn o nodweddion i’ch cynorthwyo i gofnodi’ch dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ymarfer.
Chi sy’n berchen ar eich PDP: mae’n gyfrinachol ac yn gludadwy. Cyn belled ag y byddwch wedi cofrestru gyda’r Cyngor, gallwch fynd at unrhyw gynnwys rydych chi wedi’i greu yn eich PDP.
Achrediad
Mae achredu rhaglenni AGA yn broses sicrhau ansawdd. O dan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) 2017, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol i:
- achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
- monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
- tynnu achrediad rhaglenni yn ôl
Caiff yr holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru eu hasesu, eu gwerthuso a'u monitro yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru. Cyflawnir hyn gan Fwrdd Achrediad AGA y Cyngor.