Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'r Prif Weinidog ar yr adolygiad 21 diwrnod o gyfyngiadau COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn cefnogi'r cyfeiriad cyffredinol sy'n cael ei gynnig, gan gynnwys symud i lefel rhybudd sero.

Mae trosglwyddiad yn y gymuned yn parhau i fod yn uchel yng Nghymru, yn enwedig yn y Gogledd. Mae'r rhan fwyaf o achosion ymhlith y boblogaeth iau, gyda’r gwahaniaeth rhwng yr hen a'r ifanc yn lleihau’n raddol wrth i'r trosglwyddiad ledaenu drwy'r oedrannau, gan adlewyrchu'r amddiffyniad a ddarperir drwy frechu. Bu cynnydd bach o ran cyfnodau yn yr ysbyty ac achosion sy'n gysylltiedig â COVID mewn ysbytai ond mae'r rhain yn parhau i fod ar lefelau llawer is nag mewn tonnau blaenorol. Fodd bynnag, mae ysbytai yn parhau o dan bwysau, gyda llawer o gleifion eraill yn chwilio am ofal ac angen gofal.

Mae rhai nodweddion cadarnhaol. Mae cyfradd y cynnydd mewn achosion wedi arafu a thros y dyddiau diwethaf rydym wedi gweld gostyngiad dyddiol bach mewn cyfraddau achosion. Mae'n rhy gynnar i wybod ai sefyllfa dros dro yw hon, ond mae  i'w chroesawu. Mae’n bosibl ei fod yn ganlyniad i ddiwedd y tymor ysgol, ac os felly gallai'r gostyngiad barhau. Ond gallai gostyngiad diweddar yng nghyfradd y profion ddangos amharodrwydd y boblogaeth i gael prawf, efallai cyn gwyliau.  Nodweddion cadarnhaol eraill yw bod ysgolion ar gau ar gyfer yr haf a bod y tywydd cynhesach yn ei gwneud yn bosibl i bobl dreulio amser yn yr awyr agored.

Mae nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu yn parhau i gynyddu gyda 80% o'r boblogaeth oedolion bellach wedi'u brechu'n llawn. Er bod rhywfaint o dystiolaeth o betruster brechu ymhlith yr oedrannau iau, rwy'n cael fy nghalonogi bod tua 75% o bobl ifanc rhwng 18 a 29 oed wedi cael un dos a bod bron i 50% wedi cael dau ddos. Mae’r ymdrechion i gynyddu nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu yn parhau i fod yn hollbwysig. Mae paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer dechrau rhaglen pigiad atgyfnerthu ar gyfer y rhai sydd â’r risg uchaf ym mis Medi.

O ystyried y lefelau cymharol isel o niwed sy'n deillio o COVID ar hyn o bryd, rwy'n cefnogi'r newid o ddeddfwriaeth tuag at bwyslais mwy cymesur ar ganllawiau a chymorth ymddygiadol.  Fodd bynnag, mae'n bwysig ymestyn rheoliadau yn hirach gan fod y sefyllfa'n parhau i fod yn anwadal.  

Mae angen ystyried agor clybiau nos yn ofalus.  Maent wedi bod ar gau drwy gydol y pandemig. Maent yn fannau prysur a swnllyd, ac yn aml nid ydynt wedi’u hawyru'n dda. Mae nifer fawr o bobl yn yfed ynddynt ac nid yw pobl yn cadw pellter cymdeithasol. Maent yn lleoliadau risg uchel sydd â photensial lledaenu helaeth. Fodd bynnag, mae'r rheini yn y boblogaeth sy'n wynebu'r risg fwyaf bellach yn cael eu hamddiffyn drwy’r brechlyn ac mae amodau cymharol ffafriol eraill yn cael eu crybwyll uchod. Pryd bynnag y bydd amseriad agor clybiau nos, bydd bob amser elfen o risg i iechyd y cyhoedd.

Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio ymhellach, mae angen i ni barhau â negeseuon cryf o ran iechyd y cyhoedd i helpu pobl i ddiogelu eu hunain ac eraill.

  • Mae golchi dwylo a hylendid anadlol da yn parhau i fod yn bwysig 
  • Mae'n well cyfyngu ar gysylltiadau a defnyddio lleoliadau awyr agored
  • Hunanynysu a chael prawf os oes gennych symptomau
  • Cadw gofynion cyfreithiol ar gyfer asesiadau risg COVID-19 a gorchuddion wyneb mewn lleoliadau caeedig dan do

Wrth edrych tua’r dyfodol, y prif risg o hyd yw amrywiolion o’r feirws. Nid yw'r newid i ddileu cwarantin a llacio gofynion profi ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn sy'n cyrraedd o wledydd rhestr oren heb risg, gan gynyddu'r cyfleoedd i heintiau amrywiolion gyrraedd y DU a Chymru. Gall brechlynnau helpu i leihau'r risg hon, ond dim ond os ydynt yn dal yn effeithiol.

Felly, mae cyfiawnhad dros ddull gofalus o ran llacio gofynion iechyd ar y ffiniau, oherwydd cyfraddau digwydded achosion o amrywiolion cynyddol yn fyd-eang ac oherwydd nad yw’r gwaith brechu yn gyflawn eto yng Nghymru. Er bod mesurau iechyd ar y ffiniau yn mynd rywfaint o'r ffordd i ddiogelu rhag mewnforio heintiau a chyflwyno amrywiolion newydd i'r DU, dylem barhau i weithio gyda gwledydd eraill y DU i gryfhau ein trefniadau rheoli ffiniau ymhellach. Gellir cyfiawnhau cyfyngiadau parhaus ar deithio rhyngwladol os gwelwn gyfraddau achosion yn dechrau cynyddu.

O ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â mewnforio heintiau, yn enwedig amrywiolion sy'n peri pryder, dylem barhau i gynghori yn erbyn teithio nad yw'n hanfodol. Fodd bynnag, gan fod Cymru'n rhannu ffin agored â Lloegr, nid yw'n effeithiol cael trefniadau polisi ar wahân ar gyfer Cymru. Felly, o leiaf, os bydd polisïau ar draws y DU yn newid i lacio gofynion cwarantin, dylem gynnal trefniadau cyson a chadarn o ran cadw golwg ar brofion a dilyniannu genomig canlyniadau fel un dull lliniaru yn erbyn mewnforio amrywiolion sy’n dianc rhag effaith brechlyn.  

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol